ELLIS, REES (fl. 1714), bardd

Enw: Rees Ellis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Nansi Ceridwen Jones

Ceir tri darn o'i eiddo yn y llawysgrifau, sef 'Cerdd yn crybwyll yn fyr am rinwedd cariad perffaith i'w chanu ar Heavy Heart neu Galon Drom' yn NLW MS 1710B: Poems (133), 'Ymddiddan rhwng dyn a'i gariad,' ac 'yn erbyn tyngu yn anudon ar Leave Land,' yn NLW MS 9B (3, 565). Mewn llawysgrif arall, NLW MS 3201A , ceir darn o eiddo Rhys Elis o'r Wayn sef 'Einioes dyn yn cael ei chyffelybu i ddeuddeg mis y flwyddyn.' Fe geir y darn hwn hefyd yn Blodeu-Gerdd Cymry, 1759, 421, ynghyd â dau ddarn arall, 'Carol Haf,' gyda'r dyddiad 1736, 304, a 'Cyngor i fyw yn dduwiol, 492.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.