ELLIS, ELLIS OWEN ('Ellis Bryncoch '; 1813 - 1861), arlunydd

Enw: Ellis Owen Ellis
Ffugenw: Ellis Bryncoch
Dyddiad geni: 1813
Dyddiad marw: 1861
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd ym mhlwyf Abererch, Sir Gaernarfon, ei fam yn ferch John Roberts ('Siôn Lleyn'); yr oedd yr arlunydd yn perthyn hefyd i John Thomas ('Siôn Wyn o Eifion'). Prentisiwyd ef i saer coed, ond gan fod ganddo beth talent arlunio fe drefnodd Syr Robert Williames Vaughan, Nannau, Sir Feirionnydd, iddo ddyfod i adnabod Syr Martin Archer Shee, paentiwr, a roes iddo lythyrau i'w gyflwyno i arlunwyr eraill yn Llundain, lle yr aeth Ellis yn 1834 i astudio ac i baentio. Dangoswyd peth o'i waith mewn orielau yn Llundain, ac enillodd rai gwobrau ym myd celf. Dyma enwau tri o'i weithiau: ' The Battle of Rhuddlan Marsh,' ' Caradog before Caesar in Rome,' a ' The Fall of Llywelyn the last Prince of Wales.' Ei weithiau mwyaf adnabyddus yng Nghymru ydyw (a) darlun tua chant o wyr llên Cymru, darlun y talodd William, Morris ('Gwilym Tawe') 100 gini amdano, a (b) darlun ' Siôn Wyn o Eifion ' o dan y teitl ' Y Bardd yn ei Wely,' a geir yn argraffiadau 1861 a 1910 Gwaith barddonol Siôn Wyn o Eifion; y mae gwreiddiol (b) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Y mae hefyd yn y Llyfrgell ddau o'i lyfrau yn cynnwys darluniau gwreiddiol: (a) ' The Book of Welsh Ballads illustrated in outline. By Ellis Bryn-coch ,' yn cynnwys saith darlun yn delio â ' Bessi o Lansanffraid,' baled John Jones ('Jac Glanygors ', a (b) ' Illustrated Life of Richard Robert Jones Aberdaron by Ellis Owen Ellis Bryn Coch ,' [ Dic Aberdaron ] hwn yn cynnwys 11 o luniau gwreiddiol. Ceir hefyd yn y Llyfrgell Genedlaethol gopi o ddarlun a wnaeth ef ohono'i hun. Bu farw 17 Mai 1861, a chladdwyd yn Abererch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.