Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ELLIS , MORGAN ALBERT ( 1832 - 1901 ), pregethwr, etc. , yn U.D.A. ; g. 19 Medi 1832 , ym Melin y Coed gerllaw Machynlleth . Er ei fod o deulu tlawd cafodd gymorth i gael addysg dda a graddio. Bu'n cadw Ysgol Genedlaethol a oedd dan nawdd Syr Robert Williames Vaughan , barwnig , Nannau , sir Feirionnydd ; wedyn bu'n ysgolfeistr cyntaf Ysgol Brydeinig Nant Peris , sir Gaernarfon . Yn 1853 ymfudodd i U.D.A. Bu'n byw yn Pennsylvania , yn Utica, N.Y. , lle yr oedd yn olygydd Y Gwyliedydd , a bu yn New York am dymor yn golygu Y Drych a'r Gwyliedydd . Symudodd o New York i West Bangor, Pa. , i gadw ysgol ; yno y dechreuodd bregethu . Ordeiniwyd ef yn 1865 . Bu'n gweinidogaethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd mewn gwahanol fannau — Ebensburg, Pa. ; Hyde Park, Pa. ; Bangor, Pa. ; Cincinnati, Ohio ; etc.; yna aeth tua'r gorllewin i fod yn weinidog yn San Francisco a hefyd yn Coal Creek , Colorado . Pan ffurfiwyd cymanfa gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd yn U.D.A. yn Columbus , Ohio , yn 1869 , dewiswyd ef yn ysgrifennydd . Bu'n golygu neu'n cydolygu Y Cyfaill , Baner America , a Blodau yr Oes a'r Ysgol ; yr oedd yn gyd-berchennog y trydydd o'r rhain. Bu f. 1 Mehefin 1901 yn Pueblo , Colorado .

Llyfryddiaeth:

  • Y Cyfaill cylchgrawn misol y Presbyteriaid Cymreig yn America , 1838–1933 (Utica), 1901 , 287-8;
  • The Cambrian (Utica), 1901 , 377;
  • Bye–Gones, relating to Wales and the Border Counties , 1901 , 139;
  • D. J. Williams , One Hundred Years of Welsh Calvinistic Methodism in America , Philadelphia, 1937 (Philadelphia, 1937 );
  • Y Drych newyddiadur cenedlaethol Cymry America Utica), 22 Hydref 1903 .

Awdur:

Robert (Bob) Owen, O.B.E., M.A., (1885-1962), Croesor