ELIAS, DAVID (1790 - 1856), gweinidog ac athro ysgol

Enw: David Elias
Dyddiad geni: 1790
Dyddiad marw: 1856
Priod: Elizabeth Elias (née Roose)
Plentyn: John Roose Elias
Rhiant: Jane Jones (née Roberts)
Rhiant: Elias Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog ac athro ysgol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John Edward Hughes

Ganwyd 16 Mehefin 1790 ym Mrynllwyn Bach, Aber-erch, Sir Gaernarfon, mab Elias a Jane Jones, a brawd John Elias. Dechreuodd bregethu yn 1815, ac ordeiniwyd ef yn 1835. Yn 1817 aeth i gadw ysgol i Gaergybi. Aeth i fyw i Bryndu ac wedi hynny i Bentraeth, lle y cadwai fasnach. Gwr pruddglwyfus, pregethwr llym, ac, fel ei frawd, yn Uchel-Galfiniad. Ysgrifennodd Yr Arfaeth Dragywyddol (Caernarfon, 1847).

Bu farw 29 Mai 1856, a chladdwyd ym Mhentraeth. Roedd John Roose Elias yn fab iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.