Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EDWARDS , ROBERT ( 1796 - 1862 ), cerddor . Nid oes sicrwydd am fan ei eni, na'i rieni. Dechreuodd ei yrfa fel melinydd ym Melin Gwibnant , ger Mostyn , sir Fflint . Symudodd i Lerpwl i wasnaethu fel certiwr , ond cafodd le gyda'r Bridgewater Trust a dringodd i fod yn arolygwr , swydd a ddaliodd tra bu byw. Bu cysylltiad rhyngddo â'r canu yng nghapel Methodistiaid Calfinaidd Bedford Street am 24 mlynedd. Cyflwynwyd Beibl a £52 yn anrheg iddo am ei lafur. Efe a gyfansoddodd y dôn ‘ Caersalem ,’ 8.7.4., un o donau mwyaf poblogaidd Cymru . Cyfansoddwyd hi yn 1824 , ymddangosodd yn Peroriaeth Hyfryd ( John Parry ), 1837 , ac adwaenid hi fel ‘ Tôn Bob y Felin .’ Ymddangosodd yn Y Cysegr a'r Teulu ( Thomas Gee ), 1878 , gydag enw E. Roberts fel cyfansoddwr iddi, ond ysgrifennodd John Edwards , Bedford Street (olynydd Robert Edwards ), ac eraill i brofi mai Robert Edwards oedd ei hawdur. Bu f. yn 1862 , a chladdwyd ef ym mynwent Anfield .

Llyfryddiaeth:

  • Yr Haul , 1889 , 113;
  • Y Cerddor , 1896 , 12, Gorffennaf 1905 , Chwefror 1907 ;
  • Rhestr gyda nodiadau byrion, o Enwogion Cymreig o 1700 i 1900 , Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1908 .

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn