EDWARDS
,
ROBERT
(‘
Robin Ddu o Feirion
’;
1775
-
1805
),
bardd, llenor, a hynafieithydd
;
brodor o
Drawsfynydd
. Cyfansoddodd lawer o farddoniaeth. Ceir enghreifftiau o'i waith yn
Corff y Gainc
(
‘
Ddafydd Ddu Eryri
’
) — sef ‘
Englyn
,
Cyffes y Bardd
,’ a ‘
Cywydd Marwnad Rowland Hugh, bardd o'r Graienyn, gerllaw'r Bala, 1802.
’
[q.v.]
Yn
Seren Gomer
,
1835
, 275, ceir ei benillion ‘
Gofal Duw
.’ Y mae englynion coffa iddo gan
‘
Gutyn Peris
’
yn
Corff y Gainc
, ac ar ei garreg fedd y mae 12 o englynion gan yr un awdur. Cyfeirir ato ar ei garreg fedd fel ‘olrheiniwr dyfal,’ a
chasglodd ynghyd nifer o lawysgrifau
. Bu f.
18 Chwefror 1805
a'i gladdu yn
Nhrawsfynydd
ar y 21.
Llyfryddiaeth:
-
Rhestr gyda nodiadau byrion, o Enwogion
Cymreig o 1700 i 1900
, Cymdeithas yr Eisteddfod
Genedlaethol, 1908
;
-
Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion
Cymru
, 1870
;
-
Edward Davies
,
Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion, hen a
diweddar, yn gelfyddydwyr, beirdd, gwyddonwyr,
pregethwyr
, Caernarfon, 1870
.
Awdur:
Elwyn Evans, M.A., Aberystwyth