EDWARDS, RICHARD (fl. 1840-84), gweinidog gyda'r Bedyddwyr a golygydd cyfnodolion yn U.D.A.

Enw: Richard Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr a golygydd cyfnodolion yn U.D.A.
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn Tredonfaen, plwyf Llanfabon, Sir Forgannwg. Ymfudodd i U.D.A. yn 1841, bu yn Utica, talaith New York, am gyfnod, ac aeth ymlaen i Pottsville, Pennsylvania, lle y bu'n byw o 1845 hyd 1884. Bu'n gweinidogaethu i'r Bedyddwyr yn St. Clair, eithr cymerodd at y gwaith o argraffu; bu hefyd yn ysgrifennydd cwmni agerlongau. Cychwynnodd, yn 1842, Y Seren Orllewinol, a gafodd hoedl o 26 mlynedd; efe hefyd a gychwynnodd, a olygodd, ac a gyhoeddodd Y Wasg Americanaidd, 1868, a gafodd gylchrediad ymysg y Bedyddwyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.