Bwriodd wedyn flwyddyn ar y Cyfandir , blwyddyn yr adroddir ei hanes yn ei ddau lyfr cyntaf, 1888 ; yna dychwelodd i Rydychen i gyfrannu dysg, ac yn 1889 etholwyd ef yn gymrawd o Goleg Lincoln , ac yn diwtor hanes yno ac mewn colegau eraill. Yno y bu hyd 1907 . Y disgwyliad oedd y tyfai'n arbenigwr ar y Dadeni a'r Diwygiad Protestannaidd — pynciau'n ymwneud â hwy oedd testunau ei dri thraethawd gwobr. Eithr nid felly y bu. Yn un peth cymerai ei waith fel tiwtor yn galed iawn; paratôi ei ddarlithiau (poblogaidd iawn) yn llafurus, a rhoddai gyfran afresymol o'i amser i waith tiwtorial, er dirfawr ddrwg i'w iechyd. Ond yn ail — daeth yn gynyddol eglur mai llenor oedd ef yn hytrach na hanesydd ‘pur' — mai â llygad artist yn hytrach na thrwy chŵydd-wydr chwilotwr y syllai ar y gorffennol. Ni chyhoeddodd, wedi'r cwbl, ddim yn Saesneg ar ei ‘gyfnod arbennig’; yn Gymraeg , mewn ysgrifau yn y Cymru — a gasglwyd, rai ohonynt, i'r cyfrolau Er Mwyn Iesu , 1898 , a Llynnoedd Llonydd , 1922 — y gwelir heddiw olion y brwdfrydedd bore. Yn wir, y perygl i ni heddiw yw bychanu gwybodaeth helaeth iawn Owen Edwards o hanes.
Y peth a orfu oedd tynfa Cymru arno — y dynfa a wnâi iddo, ar derfyn diwrnod caled o waith swyddogol, neu yn y trên, sgrifennu neu gywiro proflenni , ac a'i gwnaeth yn rhywbeth llawer mwy nag athro hanes . Wedi cydolygu, 1890 , Cymru Fydd , cychwynnodd yn 1891 gyhoeddi Cymru , yn 1892 Cymru'r Plant , yn 1894 Wales , yn 1895 Y Llenor , ac, yn 1897 , Heddyw . Cyhoeddodd lyfrau bychain, megis Cartrefi Cymru , 1896 , ac adargraffodd ddetholion helaeth o'r clasuron Cymraeg , yn enwedig ‘ Cyfres y Fil .’ Y mae'n gwbl amhosibl gorfawrygu ei wasanaeth i Gymru yn hyn o beth, ar adeg argyfyngus yn hanes ei llenyddiaeth. Nid llenyddiaeth a hanes ei gorffennol yn unig chwaith a roes ef fel hyn yng nghyrraedd ei gydgenedl, na'i ryddiaith gain ef ei hunan yn unig. Magodd do o sgrifenwyr ieuainc; gellid rhoi rhestr faith o lenorion blaenllaw a gychwynnodd eu gyrfa dan ei nawdd. Teilwng hefyd yw nodi'r gefnogaeth a roes ef yn y Cymru i ‘lenorion cefn gwlad’ nad oedd cyn hynny wedi cael nemor gyfle i ddod yn hysbys y tu allan i'w plwyfi.
Yn 1907 , penodwyd ef yn brif arolygydd ysgolion Cymru — y cyntaf ohonynt. Bu'n llwyddiant mawr, nid yn gymaint am iddo wneuthur gwelliannau yn y peiriant, ond yn hytrach yn herwydd ei ysbrydiaeth. Wrth gwrs, bu'n gefn i'r Gymraeg yn yr ysgolion; ond hefyd gwnaeth lawer i wella eu hawyrgylch ac i lacio deddfoldeb yr hen gyfundrefn. Ni bu lawn mor ffodus yn ef ymwneud â'r Bwrdd Canol ; dan rym ei deimlad greddfol fod yr ysgolion canolradd yn Seisnigaidd eu naws, arweiniwyd ef i ddadleuon ar fanion y buasai'n well eu hosgoi, ac felly cymylwyd y ddadl sylfaenol. Yn wir, nid gŵr hawdd darllen ei feddwl fu ef erioed; yr oedd yn gymhleth o nodweddion a ymddangosai ar brydiau'n anghyson â'i gilydd, gan beri penbleth i'w edmygwyr selocaf — heblaw hynny, nid pawb a ddeallai'r hiwmor direidus a ymguddiai dan fantell o ddifrifwch eithafol.
Bu am dymor byr ( 1899-1900 ) yn aelod seneddol dros Feirion , ond eilbeth (ar y mwyaf) oedd gwleidyddiaeth iddo; diwylliadol, nid gwleidyddol, oedd ei genedlaetholdeb. Urddwyd ef yn farchog yn 1916 , a chafodd D.Litt. gan Brifysgol Cymru yn 1918 . Bu f. yn Llanuwchllyn 15 Mai 1920 . Yr oedd ei briod, Ellen Davies o'r Prys Mawr yn Llanuwchllyn , wedi m. flwyddyn o'i flaen. Cawsant ddau fab a merch, ond bu'r mab hynaf f. yn blentyn.
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor