Gwnaeth Morgan Edwards , a oedd yn weinidog hynod o alluog ac ysgolheigaidd, lawer dros addysg (1) yn Philadelphia — yr oedd yn M.A. ac yn gymrawd o'r coleg yno; a (2) yng Ngholeg Providence , Rhode Island ( Prifysgol Brown yn awr) — coleg yr oedd yn M.A. ac yn gymrawd ohono, y cynorthwyodd i sicrhau siartr iddo, ac y casglodd ar ei ran filoedd o bunnau yn Lloegr ac mewn mannau eraill. Gwnaeth waith amhrisiadwy hefyd dros hanes Bedyddwyr America (1) trwy argraffu cofnodion Cymdeithas Bedyddwyr Philadelphia , a oedd mor fawr eu dylanwad, a (2) thrwy gyhoeddi yn 1770 ei Materials towards a History of the Baptists in Pennsylvania , ac yn 1792 gyffelyb gyfrol ynglŷn â New Jersey .
Y Parch. Edward William Price Evans, M.A., (1887-1972), Pontypŵl