EDWARDS
,
MILES
(
1743
-
1808
),
gweinidog gyda'r Bedyddwyr
;
g. yn
Goytre
yn
1743
. Wedi marw ei dad (y
Parch.
Thomas
Edwards
,
Llanwenarth
) yn
1746
symudodd ei fam i
Bontypŵl
ac yno (ym
Mhenygarn
yn
1766
) y dechreuodd
bregethu
. Wedi ei hyfforddi yn
Nhrosnant
,
Llanllieni
, a
Choleg y Bedyddwyr
,
Bryste
, ordeiniwyd ef yn
1755
yn
weinidog cynorthwyol
Bethesda
,
Maesaleg
. Yn
1776
etholwyd ef yn
weinidog
ar eglwys newydd a ymgynullasai yn ei dŷ, y
Wern
, ger
Pontypŵl
, ac a ymsefydlodd yn
Nhrosnant Uchaf
yn
1779
. Yno y gweinidogaethodd hyd ei f. ar
25 Medi 1808
, a'i gladdu ym mynwent y capel.
Ystyrid
Miles
Edwards
yn
ysgolhaig
da ac yn
bregethwr
effeithiol yn
Gymraeg
a
Saesneg
. Teithiai'n fynych i bregethu, ac yn achlysurol gweinidogaethai i gynulleidfa yn
Coleford
. Er mai
Jonathan
Edwards
, efallai, oedd ei hoff ddiwinydd,
Calfiniaeth
wedi ei thymheru'n helaeth oedd ei ddiwinyddiaeth, ac yn ddiamau bu ei ddylanwad yn gymorth i ryddhau pulpud y
Bedyddwyr Cymreig
o gaethiwed athrawiaethol ac apêl gyfyngedig gor-
Galfiniaeth
y cyfnod. Disgrifiwyd ef fel
‘a faithful minister of Christ for more than forty years’
a hefyd
‘an ornament to the Church of God.’
Llyfryddiaeth:
-
Hanes y Bedyddwyr yn Neheubarth Cymru
,
1839
, 575;
-
Cymru yn hanesyddol, parthedegol, a
bywgraphyddol
, 1875
;
-
Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion
Cymru
, 238;
-
Notable Welshmen (1700–1900)
,
1908
Awdur:
Y Parch. Edward William Price Evans, M.A., (1887-1972),
Pontypŵl