Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EDWARDS , JOHN ( 1799 - 1873? ), crydd a cherddor ; g. yn Cwmbranfach , plwyf Llansadwrn , sir Gaerfyrddin . Ni chafodd fanteision addysg ym more ei oes. Cafodd wersi mewn cerddoriaeth gan Dafydd Siencyn Morgan . Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, a threuliodd ei oes wrth ei grefft yn Llangadog , sir Gaerfyrddin . Bu'n arwain y canu yng nghapel y Methodistiaid am flynyddoedd, ac yn glochydd eglwys y plwyf am 10 mlynedd. Cadwai ddosbarth cerddorol bob nos o'r wythnos mewn rhyw bentref neu gilydd, ac yr oedd yn chwaraewr da ar y clarinet . Enillodd wobr Cymdeithas y Cymmrodorion am gyfansoddi tôn. Cyfansoddodd rai anthemau a nifer mawr o donau . Ymddangosodd ei dôn gyntaf, ‘ Grongar ,’ yn Seren Gomer 1824 , a cheir tonau o'i waith yn yr Haleliwia, Haleliwia Drachefn , Telyn Seion ( Rosser Beynon ), a Caniadau Seion ( R. Mills ). Ysgrifennodd adolygiad ar Gramadeg ( John Mills ) a Caniadau Seion i'r Haul , 1839 . Bu f. tua'r flwyddyn 1873 , a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llangadog .

Llyfryddiaeth:

  • Y Cerddor , Mai 1893 ;
  • M. O. Jones , Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig , Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1890 ;
  • Rhestr gyda nodiadau byrion, o Enwogion Cymreig o 1700 i 1900 , Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1908

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn