Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EDWARDS , ALFRED GEORGE ( 1848 - 1937 ), archesgob cyntaf Cymru ; mab y Parch. William Edwards a Louisa ei wraig, a brawd H. T. Edwards [q.v.] ; g. yn rheithordy Llan-ym-mawddwy , Meirionnydd , 2 Tachwedd 1848 . Bu am flwyddyn yn y Sefydliad Addysgol Cymreig , Llanymddyfri , ac yna'n ddisgybl preifat; derbyniwyd ef i Brifysgol Rhydychen yn aelod o Goleg Iesu , Ionawr 1870 , a graddiodd yn B.A. â chlod yn y clasuron yn 1874 ac yn M.A. yn 1876 . Aeth yn athro i'w hen ysgol ac yn 1875 penodwyd ef yn warden yno; urddwyd ef yn ddiacon yn 1874 ac yn offeiriad yn 1875 . Yn 1885 daeth yn ficer Eglwys Bedr , Caerfyrddin , ac yn ysgrifennydd i William Basil Jones [q.v.] , esgob Tyddewi . Yn Chwefror 1889 enwyd ef yn esgob Llanelwy , a'i gysegru yn Abaty Westminster , 25 Mawrth . Ar 1 Mehefin 1920 gorseddwyd ef yn eglwys gadeiriol Llanelwy yn archesgob cyntaf Cymru ; ymddeolodd Mehefin 1934 . Trwy ei oes safodd yn gadarn ac yn eofn dros hawliau'r Eglwys Sefydledig ; bu'n wrthwynebydd ffyrnig i Fesur Datgysylltu'r Eglwys , a basiwyd yn 1914 , ond drwy ei fedr a'i graffter llwyddodd i sicrhau lleddfu cryn dipyn ar y telerau a geir yn Neddf 1919 . Ysgrifennodd Landmarks in the History of the Welsh Church ( 1912 ) a chyhoeddodd gyfrol o'i atgofion yn 1927 . Dyry'r llyfr hwn ddarlun diddorol o fywyd gwledig Cymru yn y 19eg g. Derbyniodd er anrhydedd raddau LL.D. (Cymru) , 1920 , D.C.L. (Rhydychen) , a LL.D. (Caergrawnt) , ac yn 1920 gwnaethpwyd ef yn gymrawd anrhydeddus o Goleg Iesu , Rhydychen . Priododd yn gyntaf, 1875 , Caroline (bu hi f. 1884 ), merch Edward Edwards , Llangollen , a bu iddynt ddau fab a dwy ferch; yn ail, 1886 , Mary Laidley (bu hi f. 1912 ), merch W. J. Garland o Lisbon , a bu iddynt fab a merch; yn drydydd, 1917 , Margaret , merch y canon J. R. Armistead , o Sandbach , sir Gaerlleon . Bu f. 22 Gorffennaf 1937 , a'i gladdu yn Llanelwy .

Llyfryddiaeth:

  • A. G. Edwards , Memories , Llundain, 1927 , 1927 ;
  • G. G. Lerry , Alfred George Edwards, Archbishop of Wales, etc , Croesoswallt, 1940 , 1940 ;
  • Foster , Alumni Oxonienses

Awdur:

Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth