EDWARDS
,
JOHN DAVID
(
1805
-
1885
),
offeiriad a cherddor
;
g.
19 Rhagfyr 1805
yn
Penderlwyngoch
,
Gwnnws
,
sir Aberteifi
, mab
John
Edwards
. Addysgwyd ef yn
ysgol Ystrad Meurig
, ac yng
Ngholeg Iesu
,
Rhydychen
, lle y graddiodd yn
1830
yn
B.A.
ac yn ddiweddarach yn
M.A.
Urddwyd ef yn
ddiacon
yn
1832
, ac yn
offeiriad
yn
1833
. Gwasanaethodd fel
curad
ym mhlwyfi
Llansantffraid Glyndyfrdwy
ac
Aberdyfi
, ac yn
1843
penodwyd ef gan
Syr
Watkin Williams
Wynn
yn
beriglor
Rhosymedre
, lle y llafuriodd hyd ddiwedd ei oes. Dechreuodd
ddysgu cerddoriaeth
yn ieuanc, a chafodd wersi gan
Dafydd Siencyn
Morgan
, ac
astudiodd ramadegau cerddorol
Taunsur
,
Calcott
, ac eraill, a daeth yn
gerddor
enwog. Yn
1836
dug allan
Original Sacred Music
, y llyfr tonau cyntaf at wasanaeth cynulleidfaoedd yr
Eglwys yng Nghymru
. Yn
1843
daeth ag ail gyfrol o donau allan. Cyfansoddodd lawer o donau, ac erys ‘
Rhosymedre
’ neu ‘
Lovely
’ yn boblogaidd o hyd. Cyfansoddodd
Dr.
Vaughan
Williams
Choral Prelude on the Welsh Tune ‘Lovely
,’ a chanwyd hi ar yr organ yng ngŵyl gerddorol cerddoriaeth eglwysig yn y
Plas Grisial
,
Llundain
,
21 Gorffennaf 1933
. Yr oedd yn un
o feirniaid gorau
Cymru
, ac ef ac
Edward
Stephen
(’
Tanymarian
’)
a farnodd ‘
Teyrnasoedd y Ddaear
’
J. Ambrose
Lloyd
yn orau yn
Bethesda
yn
1852
. Yr oedd yn
bregethwr
poblogaidd a bugail cymeradwy. Bu f. yn nhŷ ei nai yn rheithordy
Llanddoget
,
24 Tachwedd 1885
, a chladdwyd ef yn
Talyllyn
,
Meirionnydd
.
Llyfryddiaeth:
-
Y Llan
,
Rhagfyr 1885
;
-
M. O. Jones
,
Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig
,
Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1890
;
-
Y Cerddor
,
Gorffennaf 1891
.
Awdur:
Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn