EDWARDES, DAVID (c. 1630 - 1690), tirfeddiannwr a dirprwy-herodr

Enw: David Edwardes
Dyddiad geni: c. 1630
Dyddiad marw: 1690
Priod: Elizabeth Edwardes (née Morgan)
Rhiant: David Edwardes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tirfeddiannwr a dirprwy-herodr
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Milwrol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Francis Jones

o Rydygors, Sir Gaerfyrddin; unig fab David Edwardes. Priododd Elizabeth, merch David Morgan, Coedllwyd, Sir Benfro. Meddai ar wybodaeth eang ar achau ac arfau. Ar 1 Awst 1684 penodwyd ef gan y ' Clarenceux King-of-Arms ' i fod yn ddirprwy-herodr dros siroedd Aberteifi, Brycheiniog, Penfro, Morgannwg a Chaerfyrddin. Teithiodd lawer drwy Gymru a Lloegr, a bu'n astudio gwahanol gasgliadau o lawysgrifau ar ei deithiau. Ysgrifennodd lawer o lyfrau achau, ac yr oedd son amdano drwy Brydain a'r Cyfandir. Bu farw'n ddiblant yn 1690, a phrofwyd ei ewyllys yng Nghaerfyrddin ar 31 Tachwedd o'r flwyddyn honno. Cafodd William Lewes o Lwynderw y rhan fwyaf o'i lawysgrifau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.