EDWARDS, WILLIAM CAMDEN (1777 - 1855), ysgythrwr

Enw: William Camden Edwards
Dyddiad geni: 1777
Dyddiad marw: 1855
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgythrwr
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Megan Ellis

Dywedir iddo gael ei eni yn sir Fynwy ac iddo symud i Bungay yn Suffolk yn 25 mlwydd oed. Bu'n gweithio yno fel ysgythrwr i Brightly, cyhoeddwr argraffiad darluniadol o'r Beibl, 1804, ac argraffiadau darluniadol o Bunyan, Pilgrim's Progress, 1805 a 1808. Er bod nifer o ysgythriadau o destunau ysgrythurol ac o dirluniau (gan gynnwys un o leiaf o waith Salvator Rosa) ar gael sy'n dangos amrywiaeth ei waith, yn ei ysgythriadau o bortreadau y gwelir ei waith gorau. Cynnwys ei waith ysgythriadau o ddarluniau gan Reynolds, Lawrence, Richard Cosway, Ozias Humphrey, Kneller, Hoppner, Gainsborough, Samuel Cooper, ac Opie. Casglodd Dawson Turner (1775 - 1858), hynafiaethydd a llysieuydd, gasgliad cyflawn o'i waith.

Bu Edwards farw 22 Awst 1855, a chladdwyd ef ym mynwent y Drindod Sanctaidd yn Bungay.

Gwelir ei waith yn yr Amgueddfa Brydeinig, yr Amgueddfa yn Ne Kensington, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.