DYKINS, WILLIAM ('Dirwynydd '; 1831 - 1872), llenor a bardd gwlad

Enw: William Dykins
Ffugenw: Dirwynydd
Dyddiad geni: 1831
Dyddiad marw: 1872
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor a bardd gwlad
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Griffith Thomas Roberts

Ganwyd ym Maes Glas ger Holywell, 8 Rhagfyr 1831. Magesid ef gyda'r Annibynwyr Saesneg yn Alpha, Holywell, ond troes at y Wesleaid pan oedd yn ddyn ieuanc, a bu'n aelod gyda hwy yn Nhreffynnon, Maes Glas, ac yn Ffynnon Groyw, wedi iddo symud i fyw yno. Gŵr defosiynol a brofasai wres diwygiad crefyddol ydoedd, a'i ddiddordeb yn fawr mewn llenyddiaeth a cherddoriaeth. Bu'n arweinydd côr, yn godwr canu ym Mhen Dref, Holywell, a dywedir ei fod 'yn barhaus yn ceisio bod o ryw wasanaeth, yn enwedig gyda'r canu.' Cyhoeddwyd amryw ddarnau barddonol, caeth a rhydd, o'r eiddo yn Y Winllan a'r Eurgrawn Wesleaidd yn ystod blynyddoedd olaf ei oes - cerddi crefyddol fel rheol. Ceir ysgrifau hefyd o'i waith yn yr un cylchgronau. Wedi dioddef cystudd' maith am y 10 mlynedd olaf o'i oes, bu farw 25 Rhagfyr 1872, a'i gladdu yn Nhreffynnon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.