Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DYFRIG , neu DUBRICIUS ( fl. 475? ), sant Cymreig cynnar a gysylltir gan amlaf â de-ddwyrain Cymru , ac yn arbennig â gorllewin a de sir fodern Henffordd . Yn ôl y ‘ Vita Samsonis ,’ cyfansoddiad o'r 7fed g. a'r ffynhonnell gynharaf am fywyd Dyfrig , yr oedd gryn dipyn yn hŷn na S. Samson ac yn gyfoed neu ychydig yn hŷn na S. Illtud . Yma hefyd cysylltir ef ag ynys Caldey ( Ynys Bŷr ) ar gyfer Dinbych-y-pysgod , sir Benfro . Anfoddhaol, fodd bynnag, hyd yma, yw'r cais i gysylltu Dyfrig â'r person a enwir mewn arysgrif ogam amherffaith ar garreg ar ynys Caldey . O'r tair ‘Buchedd’ a oroesodd, dibwys yw'r ddwy ddiweddaraf a gyfansoddwyd gan Sieffre o Fynwy a Benedict o Gaerloyw . Ceir y ‘Fuchedd’ gynharaf yn ‘ Llyfr Llandaf ,’ yn dilyn rhestr o diroedd a drosglwyddwyd, meddir, i Landaf yn oes Dyfrig . Yn ôl y ‘Fuchedd’ hon, mab oedd Dyfrig i Ebrdil merch Pebiau brenin Ercych . Gwyrthiol oedd modd ei eni ym Matle (hwyrach Madley , pum milltir a hanner i'r gorllewin o Henffordd ), ac yn union dangosodd ei alluoedd gwyrthiol drwy iacháu ei daid o hen glefyd . Datblygodd y bachgen yn ysgolhaig o fri a sefydlodd fynachlogHennlann ’ ( Hentland-on-Wye ), lle y dysgodd ddisgyblion o bell ac agos am saith mlynedd. Galwyd ei ail sefydliad, ger man ei enedigaeth, yn ‘ Mochros ’ (yn awr Moccas ); bu yno am flynyddoedd lawer. Yn olaf, wedi ei orthrymu gan afiechyd corfforol a henaint, ciliodd i fyw bywyd meudwy ar ynys Enlli , lle hefyd y claddwyd ef. Ganrifoedd ar ôl hyn, ym mis Mai 1120 , cludwyd ei gorff i Landaf ; hyn hwyrach a symbylodd gyfansoddi ei ‘Fuchedd’ na chynnwys nemor ddim ond casgliad o draddodiadau mewn bri adeg y cyfansoddi. Defnyddiwyd hyd yn oed y traddodiadau hyn i bwysleisio hynafiaeth ac uchafiaeth Llandaf . Adlais felly o bropaganda ymwybodol y 12fed g. ac nid ffeithiau hanesyddol y 5ed a'r 6ed g. yw'r gosodiad a wneir yn ‘ Llyfr Llandaf ’ mai Dyfrig oedd esgob Llandaf ac archesgob de Prydain . Cytuna'r ‘Fuchedd’ â'r ‘ Annales Cambriae ’ wrth nodi 612 fel blwyddyn marw Dyfrig . Fodd bynnag, y mae natur ei berthynas draddodiadol â'r saint Cymreig eraill a chysylltiad maes ei weithgarwch a'r eglwysi a gyflwynwyd iddo a'r ardal honno i'r gorllewin o Hafren y dylanwadwyd arni mor drwm gan y Rhufeiniaid yn awgrymu dyddiad o leiaf ganrif yn gynt. Nodir 14 Tachwedd yn arferol fel dydd gŵyl Dyfrig .

Llyfryddiaeth:

  • Liber Landavensis. The Text of the Book of Llan Dâv ) , 1893 (gol. J. Gwenogvryn Evans a John Rhys ), 68-86;
  • The Lives of the British Saints , ii, 359-82;
  • G. H. Doble , yn y "Welsh Saints" Series , 1943 ;
  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • Y Cymmrodor , 1888 , 156;
  • Archaeologia Cambrensis , 1916 , 95-7;
  • R. A. S. Macalister , Corpus Inscriptionum Insularum Celticarum , Dulyn, 1945- , i., 405;
  • E. G. Bowen , yn Antiquity , 1945 , 178-9.

Awdur:

Hywel David Emanuel, M.A., (1921-70), Aberystwyth