DYER, JOHN (1699 - 1757), bardd

Enw: John Dyer
Dyddiad geni: 1699
Dyddiad marw: 1757
Priod: Sarah Dyer (née Ensor)
Rhiant: Catherine Dyer (née Cocks)
Rhiant: Robert Dyer
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Barddoniaeth
Awdur: Herbert Gladstone Wright

Ail fab Robert Dyer, cyfreithiwr a oedd yn byw yn Abersanen, Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin, ar y pryd. (Yn 1710 prynodd Aberglasney, ym mhlwyf cyfagos Llangathen). Bedyddiwyd John yn eglwys Llanfynydd 13 Awst 1699 a thebyg mai yn Abersanen y'i ganwyd ychydig cyn hynny.

Ar ôl derbyn addysg yn Ysgol Westminster, aeth John i swyddfa ei dad, a phan fu hwnnw farw aeth yn ddisgybl i Jonathan Richardson (1665 - 1745), awdur Theory of Painting, 1715. Yn ddiweddarach crwydrodd Dyer trwy Dde Cymru a'r gororau i baentio. Er mwyn datblygu ei ddawn artistaidd aeth i'r Eidal; yno dug adfeilion baddondy Caracalla ar gof iddo y deri 'On Merlin's mount, or Snowden's rugged sides' a'u canghennau wedi eu gwasgaru gan y storm. Yn 1726 dychwelodd i Loegr a dod i adnabod Aaron Hill, dramaydd, a'i gyfeillion James Thomson a Richard Savage yn eu plith.

Yn A New Miscellany, y tybir ei gyhoeddi yn 1726, ymddangosodd 'Grongar Hill,' cân Dyer mewn llinellau wyth sillaf; daeth allan yr un flwyddyn mewn fersiwn bindarig yn Miscellaneous Poems and Translations (gol. Savage), a thrachefn yr un flwyddyn yn Miscellaneous Poems (gol. D. Lewis) - y tro olaf hwn yn llinellau wyth sillaf. Arferai fersiwn lawysgrif o'r gân fod yn eiddo Lady Hertford - perthynai Dyer a Thomson i'w chylch hi, ac yr oeddynt yn gyfeillion da. Y mae cân ar gael yn mynegi gofid am iddynt ymwahanu; efallai mai yr hyn a roes fod i'r gân ydoedd cynnig a wnaeth Dyer i fod yn amaethwr yn Mapleton, Swydd Henffordd. Eithr newidiwyd ei gynlluniau. Priododd ryw Miss Ensor, ac ordeiniwyd ef. O hynny ymlaen bu mewn gwahanol fywiolaethau yn swyddi Leicester a Lincoln; yn 1751 aeth i wasnaethu yn Coningsby, lle y claddwyd ef 15 Rhagfyr 1757.

Ysbrydolwyd 'Grongar Hill,' cân enwocaf Dyer, gan y golygfeydd yn Aberglasney a'r cylch; cyhoeddwyd yn Llanymddyfri yn 1832 fersiwn Gymraeg Thomas Davies, Crugywheel, ohoni. Dwy gân nodedig arall ydyw 'The Ruins of Rome,' 1740, a 'The Fleece,' 1757; ceir llawer o atgofion am Gymru yn yr olaf. Y mae i Dyer beth pwysigrwydd fel bardd-baentiwr. Cawsai gwaith yr arlunydd Ffrangeg Claude ddylanwad ar ei farddoniaeth, ac y mae'n bosibl ystyried Dyer yn hytrach na Thomson fel gwir arloesydd barddoniaeth yn disgrifio golygfeydd natur. Talodd William Wordsworth deyrnged iddo mewn soned - 'To the Poet, John Dyer.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.