DWNN, OWAIN (c. 1400 - c. 1460),

Enw: Owain Dwnn
Dyddiad geni: c. 1400
Dyddiad marw: c. 1460
Priod: Catherine Dwnn (née Wogan)
Plentyn: Harri Dwnn
Rhiant: Maredudd ap Henry Dwnn
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Milwrol; Barddoniaeth; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Garfield Hopkin Hughes

Modlyscwm, Cydweli. Ei daid oedd yr Henry Don a fu'n cynorthwyo Owain Glyn Dŵr (Lloyd, Owen Glendower, 41). Enwir Owain Dwnn yn fynych mewn dogfennau rhwng 1436 a 1446. Chwaer iddo oedd Mabli, gwraig gyntaf Gruffydd ap Nicholas o Ddinefwr, a charcharwyd Owain a Gruffydd fel canlynwyr i Humphrey, dug Caerloyw, ustus De Cymru, pan fachludodd haul hwnnw yn 1447. Y mae tystiolaeth (Panton MS. 40 (83)) iddo wasanaethu yn Iwerddon o dan Richard, dug Efrog, tad Edward IV, ac iddo ef, efallai, y canodd Hywel Dafydd gywydd sy'n llawn cyfeiriadau at y gwasanaeth hwnnw. Gwraig Owain oedd Catherine, merch John Wogan o Bictwn, Sir Benfro, a mab iddynt oedd yr Harri Dwnn a laddwyd, gyda'i gefnder o'r un enw, ym mrwydr Hedgecote Field, Gorffennaf 1469.

Enwir Owain Dwnn fel bardd yn bennaf ar sail yr 'englynion a fu rhwng Gruffudd ap Nicholas ag Owain Dwnn a Gruffudd Benrhaw ' (y mae'r testun hynaf ohonynt yn NLW MS 3039B (59-78)), ond anodd barnu eu dilysrwydd. Priodolir un englyn proest i Owain Dwnn, hefyd, yn NLW MS 3039B (510).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.