DWNN, LEWYS (c. 1550 - c. 1616), neu Lewys ap Rhys ap Owain

Enw: Lewys Dwnn
Dyddiad geni: c. 1550
Dyddiad marw: c. 1616
Priod: Alice ferch Meredydd ap Dafydd
Plentyn: James Dwnn
Rhiant: Gwenllian Dwnn
Rhiant: Rhys ap Owain ap Morus
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Garfield Hopkin Hughes

O'r Betws yng Nghydewain, Sir Drefaldwyn. Dywed ef ei hun (Heraldic Visitations, i, 26) ei fod o linach David Dwnn o Gydweli (sef brawd Owain Dwnn) a 'aeth i Bowys gwedi lladd Maer Kydweli' a dyfod yn berchen Cefn y Gwestyd trwy ei wraig Angharad Lloyd. Un o deulu Cefn y Gwestyd oedd mam Lewys, sef Gwenllian, merch Rhys Goch Dwnn, a briododd Rhys ap Owain ap Morus. Ond cymerodd y mab gyfenw ei fam. Y dyddiad cynharaf wrth gerddi Lewys Dwnn yw 1568, a 1616 yw'r dyddiad diweddaraf (Peniarth MS 96 (441, 586)). Ei wraig oedd Alice, merch Meredydd ap Dafydd, ac y mae'n bosibl mai James Dwnn y prydydd oedd yr hynaf o'u chwe plentyn.

Y dystiolaeth orau dros ddiddordeb cynnar Lewys Dwnn mewn achyddiaeth yw ei ragair ef ei hun i'w lyfr achau, lle'r enwir yr 'hen wyr briglwydion o brydyddion perffaith awduredig' yr oedd ef yn eu hadnabod, a'r to cynharach, megis Gutun Owain, Ieuan Brechfa, a Hywel Swrdwal, y gwyddai ef am eu gweithiau. Y mae tystiolaeth mai Hywel ap Syr Mathew, William Llŷn, ac Owain Gwynedd oedd ei athrawon, a bod Rhys Cain yn un o'i gyd-ddisgyblion. Ym mis Chwefror 1585, trwy ddylanwad cyfeillion, cafodd swydd dirprwy i Robert Cooke, 'Clarencieux King-at-arms,' a William Flower, 'Norroy King-at-arms,' i weithredu (yn ei frawddeg ef ei hun) fel 'debyt Herawt at Arms tros tair talaith Kymru.' Bu Flower farw yn 1588, a Cooke yn 1592, ond er gwaetha'r rhwystrau y soniodd amdanynt yn ei air 'At y Darllenydd' daliodd Dwnn i gasglu hyd 1614, gan roi'r un gofal i'r rhannau olaf o'i waith ag i'r rhannau swyddogol. Erys rhai llawysgrifau yn cynnwys rhannau o'i gasgliad achau yng nghasgliad Egerton yn yr Amgueddfa Brydeinig ac yng nghasgliad Peniarth yn y Llyfrgell Genedlaethol. Cyhoeddwyd y casgliad yn ddwy gyfrol o dan olygiaeth S. R. Meyrick yn Llanymddyfri yn 1846.

Fel prydydd bu'n neilltuol gynhyrchiol, ond y mae nodau dirywiad y gelfyddyd farddol yn amlwg iawn ar ei gerddi. Y mae'r mwyafrif ohonynt yn Peniarth MS 96 , yn ei law ef ei hun. Canodd i uchelwyr ym mhob rhan o Gymru, ond dylid sylwi'n arbennig ar ei gerdd foliant i 'Gaer Dyf,' 1601, ei gywyddau i Dr. John Davies, Mallwyd, a'r esgob Morgan, 1600, a'r marwnadau i Huw Arwystli, 1583, a Siôn Tudur, 1602.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.