Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DURSTON , THOMAS (bu f. 1767 ), gwerthwr llyfrau ac argraffydd llyfrau a baledi yn Amwythig . Er nad yw'n sicr mai Cymro oedd Thomas Durston , argraffodd gynifer o lyfrau a baledi Cymraeg nes haeddu ohono gofnod byr yn y gwaith hwn. Dechreuodd argraffu yn Amwythig yn 1711 (e.e. Y Lyfr Gweddi-Gyffredin Y Cydymmaith Goreu: Yn y Ty a'r Stafell ). Cafodd ryddfreiniad y ‘ Combrethren of Saddlers ’ ar 23 Mai 1714 . Y mae'n debyg iddo barhau mewn busnes hyd ei gladdu ar 26 Medi 1767 . Ynglŷn â'i ddiffyg egwyddor ynglŷn a gwaith argraffwyr eraill, gw. J. H. Davies , ‘ Early Welsh Bibliography ,’ yn Trans. Cymm. , 1897-8 . Am deitlau rhai o gynhyrchion ei wasg gw. y ffynonellau a enwir isod.

Llyfryddiaeth:

  • W. Rowlands , Llyfryddiaeth y Cymry , Llanidloes, 1869 a’ erthyglau yn Y Traethodydd , 1850 ;
  • J. H. Davies , A Bibliography of Welsh Ballads printed in the 18th century , 1908-11 ;
  • Ifano Jones , A history of printing and printers in Wales to 1810, and of successive and related printers to 1923. , 1925 ;
  • Llewelyn C. Lloyd , ‘The Book-Trade in Shropshire,’ yn Transactions of the Shropshire Archaeological and Natural History Society , 1877 ff , 1935 , 1936 .

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

DURSTON , THOMAS ( Bywg. , 162b) Trans. Cymm. 1897-8 ac nid 1898-9 .