DUNAWD, sant (fl. yn y 6ed ganrif),

Enw: Dunawd
Priod: Dwywei ferch Leennawg
Plentyn: Gwarthan
Plentyn: Cynwyl
Plentyn: Deiniol
Rhiant: Pabo Post Prydain
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

mab i Babo Post Prydain o linach Coel Godebog. Dywed traddodiad Cymreig iddo fod yn dywysog yng ngogledd Prydain, ac enwir ef yn y Trioedd fel un o 'dri post câd' ei wlad. Ei wraig oedd Dwywai, ferch Lleenog. Bu raid iddo ffoi o'i ranbarth ei hun i Ogledd Cymru, lle cafodd nodded gan Gyngen, fab Cadell Deyrnllwg, tywysog Powys. Dywedir iddo, gyda chymorth ei dri mab Deiniol, Cynwyl, a Gwarthan, sefydlu mynachlog Bangor Iscoed ar lannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint; ac ef fu'r abad cyntaf. Gwell gan Syr John E. Lloyd ar y llaw arall dderbyn y traddodiad mai Deiniol Sant a gychwynnodd fynachlog Bangor Iscoed. Cofnoda'r 'Annales Cambriae' farwolaeth 'Dunaut rex' yn y flwyddyn 595. Ond dywed Beda fod Dunawd (' Dinoot ') yn parhau fel abad Bangor Iscoed ar adeg ail gyfarfyddiad Awstin Sant â'r saith esgob o Gymru yn 602 neu 603. Bangor Iscoed yw'r unig eglwys a gysegrwyd i Ddunawd Sant. Ni sonnir amdano yn y calendrau Cymreig cynnar, ond nodir 7 Medi weithiau fel ei ddydd gŵyl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.