DRISCOLL, JAMES (1880 - 1925), paffiwr

Enw: James Driscoll
Dyddiad geni: 1880
Dyddiad marw: 1925
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: paffiwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Emlyn Wynne Evans

Ganwyd yn Newton, Caerdydd, 15 Rhagfyr, 1880, o dylwyth Gwyddelig. Daeth i amlygrwydd gyntaf yn 1906 pan enillodd gampwriaeth Lloegr yn yr adran ysgafn ('bantam-weight'). Dringodd i enwogrwydd yn gyflym. Yn 1909 enillodd gampwriaeth y byd yn yr adran ysgafn ('feather-weight') yn Efrog Newydd, ac ar ei ddychweliad i Loegr enillodd yn barhaol wregys sialens yr arlwydd Lonsdale a gynigiwyd am y tro cyntaf yn yr adran ysgafn, a chydnabuwyd ef yn bencampwr Prydeinig yn 1910. Yn 1912 gwasanaethodd yn y Gatrawd Magnelau Gymreig, ac yn ddiweddarach daeth yn brif hyfforddwr staff ymarferol y fyddin. Ceisiodd ailddechrau ar ei yrfa baffio yn 1919, ond yr oedd ei oedran, ynghyd ag afiechyd, yn ei erbyn, a gorchfygwyd ef gan yr ymgeisydd Ffrengig ieuanc Charles Ledoux. Bu farw yng Nghaerdydd 30 Ionawr 1925.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.