Ni adawodd yr esgob blant. Daeth ei frawd JOHN DOLBEN , Caeau Gwynion , trwy ei ferch Emma (a briododd y Parch. Hugh Williams , Llantrisant ), yn daid Syr William Williams ( 1634 - 1700 ) , llefarydd Tŷ'r Cyffredin . Bu brawd arall, WILLIAM DOLBEN (a fu f. 1643 ), yn siryf sir Ddinbych yn 1639 ar ôl gwasnaethu bwrdeisdref Dinbych a chael pardwn ( 1625 ) gan Siarl I am droseddau yn erbyn personau (‘crimes of violence’); collodd ei swyddi, fel dyn (’ common barrator ’) cynhennus, yn 1638 , ond cafodd hwy yn ôl y flwyddyn wedyn. Bu mab hynaf William , sef JOHN DOLBEN (bu f. 1662 ), a gafodd yr ystad, yn is-gyrnol ym myddin Siarl I ; dirwywyd ef (yn ôl degfed) i'r swm o £107 gan y Senedd yn 1647 ( Cal. Ctte. for Compounding , iii, 1718 ); cymerth dau aelod o'r teulu ran yn yr ymgais i gymryd castell Dinbych dros y brenin ym mis Mai 1648 , a bu'r cyrnol Dolben yn weithgar unwaith eto o blaid y brenin alltud yng ngwrthryfel Booth yn 1659 . Yn 1684 yr oedd JOHN DOLBEN (bu f. 1709 ), mab yr is-gyrnol , yn un o ddeg ar gomisiwn tiroedd cudd y Goron yn sir Ddinbych ( Cal. Treasury Books , vii, 1132). Gydag ef daeth y llinell wrywol uniongyrchol i ben, ac aeth yr ystad, trwy ei ferch, i'w gŵr hi, John Mostyn , gor-ŵyr Syr Roger Mostyn (bu f. 1641 ) , ac arloesydd y diwydiant brethyn deuled yn Ninbych ( 1749- c. 1770 ).
Parhaodd canghennau eraill o'r teulu yn flaenllaw ym mywyd cyhoeddus a gwleidyddol y sir hyd y 18fed g. — rhai aelodau ohonynt yn dal swyddi bychain o dan Gyngor (Gororau) Cymru a adnewyddwyd ar ôl yr Adferiad ( Cal. S.P. Dom. , 1660-1 , 104; 1667 , 139; Cal. Treas. Books. , iv, 751; vi, 534; vii, 543; ix, 1845) ac eraill yn cymryd rhan ym mywyd bwrdeisdrefol Rhuthyn ( W. M. Myddelton , Chirk Castle Accounts, 1666-1753 , 352, 357).
Eithr i gangen a symudasai i sir Benfro yr oedd y rhai mwyaf blaenllaw ar ôl amser yr esgob yn perthyn. Sefydlydd y gangen hon oedd John Dolben , marsiandwr , Hwlffordd , gŵr na wyddys i sicrwydd beth oedd ei berthynas â'r hen deulu ond a briododd Alice , merch Richard Myddelton , Dinbych , a chwaer Syr Hugh Myddelton . Mab iddo oedd WILLIAM DOLBEN ( 1588 - 1631 ), ficer Stackpool Elidyr , sir Benfro ( 1616 ), ficer Lawrenny , sir Benfro ( 1620 ), rheithor Llanynys , sir Ddinbych ( 1623 ), a rheithor Stanwick a Benefield , Northants ( 1623 ); priododd Elisabeth , merch y capten Hugh Williams , Wig , milwr crwydrol ( A.P.C. , 1621-3 , 368), ac Elisabeth , nith yr archesgob John Williams . Trwy ddylanwad ewythr ei wraig (a oedd yn esgob Lincoln ar y pryd) fe'i gwnaethpwyd yn ganon Caistor yn eglwys gadeiriol Lincoln ( 1629 ), ac ychydig cyn ei farw dywedwyd iddo gael ei enwi am esgobaeth yng Nghymru — eithr nid i Fangor (fel yr awgrymir yn D.N.B. ), oblegid tua mis ar ôl iddo ef farw y daeth y sedd honno'n wag. Daw ei gydymdeimlad â'r Piwritaniaid — peth anghyffredin yn ei deulu ef — i'r golwg yn ei gymynrodd o £20 tuag at y ‘darlithiau’ a sefydlwyd yn Hwlffordd yn 1630 gan ewyllys ei gefnder William Myddelton , marsiandwr , Llundain ( Report on Charities , rhif 28, 1834 , 726; N.L.W., Haverfordwest MS. 390a ). Ceir erthyglau llawn ar ei ddau fab, JOHN DOLBEN , archesgob Caerefrog , a Syr WILLIAM DOLBEN , barnwr , ac ar rai o ddisgynyddion enwog yr archesgob , yn y D.N.B. — y mae a fynno'r hyn a ddywedir isod amdanynt â'u cysylltiadau Cymreig , gan mwyaf.
Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor