DOGMAEL
(
DOGFAEL
,
DOGWEL
)
,
sant
.
Nid oes unrhyw fanylion i'w cael am fywyd y
sant
hwn ond yn unig iddo fyw yn y
6ed g.
Dywed yr achau
Cymreig
mai mab oedd i
Ithel ap Ceredig ap Cunedda Wledig
, ac felly cysylltir ef ag un o dri llwyth saint
Cymru
. A barnu oddi wrth yr eglwysi a gysegrwyd iddo, cyfyngwyd ei lafur bron yn llwyr i
sir Benfro
; canys yn y sir honno y mae
Llandudoch
(ar
Deifi
ger
Aberteifi
),
Capel Degwel
yn yr un plwyf,
S. Dogwel
(ger
Abergwaun
),
Mynachlogddu
, a
Meline
. Yr unig eithriad yw eglwys
Llanddogwel
ym
Môn
, gynt yn blwyf annibynnol, ond wedi hynny yn gysylltiedig â
Llanfechell
. Yn y
12fed g.
sefydlwyd mynachlog o
urdd y Benedictiaid
ar sail prif eglwys
Dogmael
yn
Llandudoch
. Ceir olion hanes
sant
o'r enw
Dogmael
hefyd yn
Llydaw
. Nodir dau ddiwrnod yn y gwahanol ffynonellau fel dydd gŵyl y sant hwn, sef
14 Mehefin
a
31 Hydref
.
Llyfryddiaeth:
-
The Lives of the British Saints
, ii, 349-51;
-
Acta Sanctorum Bollandiana
, 1643
ff
, xxiii, 436-7;
-
Oxford Dictionary of National
Biography
, xv 185.
Awdur:
Hywel David Emanuel, M.A., (1921-70), Aberystwyth