DAVIES
,
ROBERT
(‘
Cyndeyrn
’;
1814
-
1867
),
cerddor
;
g.
16 Mehefin 1814
mewn amaethdy o'r enw
Segar
,
Henllan
, ger
Dinbych
. Collodd ei fam yn 4 oed, a dygwyd ef i fyny gan ei ewythr ym
Mronhaul
,
Henllan
. Prentisiwyd ef yn
baentiwr
yn
Llanelwy
. Yn
1834
symudodd i
Fangor
, ac yno y daeth yn amlwg fel
cerddor
, ac y dewiswyd ef yn
arweinydd canu
yng
nghapel y Wesleaid
. Yn
1837
priododd
Margaret
, merch
Owen
Williams
,
Tros-y-canol
, ger
Bangor
, a adwaenid dan yr enw ‘
Meinwen Elwy
,’ ac a hanoedd o deulu
Goronwy
Owen
.
Yn
1840
symudodd y teulu i
Lanelwy
, ac apwyntiwyd ef yn
brif alto yn nghôr yr eglwys gadeiriol
, a bu yn y swydd am 27 mlynedd. Sefydlodd ‘
Glee Society
’ a ‘
Philharmonic Society
,’ a phenodwyd ef i
arwain y corau
ar gyfer
cylchwyl gerddorol eglwysi esgobaeth Llanelwy
. Yr oedd yn
gyfansoddwr anthemau
da. Yn
eisteddfod Bethesda
1852
enillodd wobr a thlws am yr anthem ‘
Mawl a'th erys Di yn Seion
.’ Wrth yr anthem hon y rhoddodd yr enw ‘
Cyndeyrn
’ fel ffugenw a galwyd ef ar yr enw tra bu byw. Enillodd ym
Methesda
yn
1853
, ac yn eisteddfod
Dinbych
1860
. Cyhoeddwyd yr anthemau yn
Y Cerddor Cymreig
, a
Greal y Corau
, a cheir tonau o'i waith yn
Llyfr Tonau ac Emynau
(
Stephen
and
Jones
),
Casgliad St. Asaph
(
W. J.
Hughes
), a
Caniadau y Cysegr a'r Teulu
(
Gee
,
Dinbych
). Yr oedd yn
feirniad
cymeradwy, a gelwid yn fynych am ei wasanaeth. Bu f. fis
Hydref 1867
a chladdwyd ef ym mynwent
Llanelwy
.
Llyfryddiaeth:
-
M. O. Jones
,
Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig
,
Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1890
;
-
Rhestr gyda nodiadau byrion, o Enwogion
Cymreig o 1700 i 1900
, Cymdeithas yr Eisteddfod
Genedlaethol, 1908
;
-
Y Cerddor
,
Rhagfyr 1891
.
Awdur:
Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn