DAVIES, WILLIAM ('Gwilym Teilo'; 1831 - 1892); llenor, bardd a hanesydd

Enw: William Davies
Ffugenw: Gwilym Teilo
Dyddiad geni: 1831
Dyddiad marw: 1892
Rhiant: D. Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor, bardd a hanesydd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd ym Mhontbrenareth, Llandeilo Fawr, 1831. Yr oedd ei dad yn brydydd a adnabyddid wrth yr enw Dafydd Ddu o'r De. Prentisiwyd ef yn fferyllydd; treuliodd rai blynyddoedd ym Morgannwg wrth ei alwedigaeth ond dychwelodd i Landeilo ac yno y treuliodd weddill ei oes. Bu'n olygydd Yr Oes (1853), a bu iddo ran yng ngolygyddiaeth Y Cylchgrawn am ysbaid tua 1864. Bu'n eisteddfodwr brwd a mwynhaodd gyfeillgarwch Islwyn a Dewi Wyn o Esyllt. Cystadleuodd lawer mewn llên a barddas ac enillodd wobrwyon pwysig. Ei waith mwyaf yw'r traethawd ar ' Llenyddiaeth y Cymry ' a enillodd iddo'r wobr o £60 yn eisteddfod genedlaethol Caernarfon, 1862; bwriedid i'r gwaith fod yn barhad i lyfr Thomas Stephens, The Literature of the Kymry, ond nis cyhoeddwyd (y mae'r MS. yn awr yn y Llyfrgell Genedlaethol). Ysgrifennodd lawer i gyfnodolion ei oes; ymddangosodd nofel o'i waith yn Y Byd Cymreig, 1862. Cyhoeddodd ei Llandilo-Vawr and its Neighbourhood, 1858, a'r Traethawd ar Caio a'i Hynafiaethau, 1862. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth, Gweithiau Gwilym Teilo, o dan olygiaeth y Parch. Peter Hughes Griffiths. Bu farw yn Llandeilo 3 Hydref 1892, a chladdwyd ef yno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.