DAVIES, WILLIAM (bu farw 1593), cenhadwr dros grefydd Eglwys Rufain a merthyr

Enw: William Davies
Dyddiad marw: 1593
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr dros grefydd Eglwys Rufain a merthyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Ganwyd yng Nghroes yr Eirias, Colwyn, sir Ddinbych, o deulu da. Cafodd ei addysg yn ysgol Eglwys Rufain yn Rheims (sef yr ysgol a symudasai yno o Douay bedair blynedd yng nghynt), ac fe'i hordeiniwyd gan y Cardinal Guise yn 1585. Ymhen deufis fe'i hanfonwyd i'r genhadaeth yn Lloegr ('the English mission') ac aeth yn syth i'w fro enedigol ei hun lle yr oedd nifer o Gatholigion yn ymgynnull ynghyd o dan nawdd Robert ap Hugh (neu Pugh), Penrhyn Creuddyn, ac yn cynnal eu cyrddau mewn ogof yng nghreigiau glan y môr Rhiwledin adeg yr erlid a gychwynnwyd yn 1586 gan ail iarll Penfro pan oedd yn llywydd Cyngor Goror Cymru. Dywedir i'r cenhadwr ddwyn gydag ef gopi o Drych Cristianogawl Gruffydd Robert a ailargraffwyd yn Rhiwledyn. Efe, y mae'n debyg, ydyw'r ' Syr William ' y dywed Gwilym Pue, wyr Robert Pugh, iddo weinidogaethu i'r ddiadell yn Rhiwledin; y mae'n bosibl, hefyd, ddarfod iddo gael ei garcharu yn y Gatehouse, Llundain, oblegid y llythyr a ysgrifennwyd yn 1587 gan William Griffith, Caernarfon (aelod seneddol dros Fwrdeisdref Caernarfon, 1586) at yr archesgob Whitgift - sef y llythyr yn disgrifio darganfod yr ogof a methu cymryd i'r ddalfa y rhai oedd ynddi; os felly, efe, y mae'n debyg, ydoedd y William Davies a ryddhawyd o'r Gatehouse yn 1589.

Dair blynedd yn ddiweddarach fe'i cymerwyd i'r ddalfa drachefn - gan Foulk Thomas yng Nghaergybi y tro hwn ac yng nghwmni Robert Pugh a phedwar gwr ieuanc a oedd â'u bryd ar fynd i weinidogaeth Eglwys Rufain - Roger Gwynne (gweler Bodvel) oedd un o'r pedwar - ac a gymerid i Iwerddon gan Robert Pugh. Drannoeth dygwyd Davies i Fiwmares lle yr archwiliwyd ef yng ngwydd Hugh Bellot, esgob Bangor; pan gyffesodd Davies ei fod ar genhadaeth, eithr gwrthod (pan ofynnwyd iddo ymhellach gan ustusiaid) roddi enwau ei letywyr, fe'i cymerwyd oddi wrth ei gydymdeithion a'i osod ar ei ben ei hun mewn daeardy tywyll a drewllyd ('a dark stinking dungeon'). Ar ôl iddo fod wrtho ei hunan am fis caniatâwyd iddo ychydig o ryddid a daeth ei gell yn gyrchfan Catholigion o'r cymdogaethau cylchynnol (dros y rhai y cynhaliai wasanaeth yr offeren) a Phrotestaniaid a ddeuai yno i ddadlau ag ef; eithr gwrthododd fanteisio ar y gwahanol gynigion gan Robert Pugh i'w alluogi i ddianc. Ym mrawdlys nesaf y sir fe'i cyhuddwyd gerbron William Leighton (prif ynad cylch brawdlys sir Fôn) o deyrnfradwriaeth; fe'i barnwyd yn euog ond gohiriwyd cyhoeddi'r ddedfryd yn y gobaith y gellid llwyddo i gael ganddo ddatgyffesu. Eithr methwyd a'i gael i wneuthur hynny - yn sir Fôn a phan ddygwyd ef o flaen y llys yn Llwydlo - ac fe'i carcharwyd yn Bewdley ac mewn carcharau eraill a'i ddwyn yn ôl, maes o law, i Fiwmares erbyn y frawdlys nesaf; gwrthododd hefyd, unwaith eto, gymryd rhan mewn cynllwyn i'w gael yn rhydd ar ei ffordd yno. Wedi cyrraedd yn ôl ymunodd â'i gymdeithion unwaith eto a ffurfio gyda hwy frawdoliaeth yn byw yn ôl 'rheol' bendant rhwng muriau'r carchar am tua chwe mis - sef hyd 27 Gorffennaf 1593 pryd y cafodd ei grogi fel teyrnfradwr, er gwaethaf y drafferth fawr a gafodd yr awdurdodau i gael yr offer angenrheidiol, a chrogwr, a man lle y gellid ei grogi - a phobl y cylch hefyd yn wrthwynebus; efe oedd y merthyr cyntaf i ddioddef yn y lle hwnnw dros grefydd Eglwys Rufain.

Codwyd capel coffa iddo ym Miwmares yn 1909. Ymysg ei ddisgyblion, heblaw Roger Gwynne, yr oedd William Robins, Caernarfon (a ordeiniwyd yn Valladolid, 1602), ac, efallai, Robert Edmonds o sir Ddinbych (ganwyd 1583, aeth i Valladolid yn 1603, a chredir iddo farw yn y Gatehouse yn 1615). Cyfeiria Gwilym Pue at Davies fel 'seren ei Wlad,' a dywed T. P. Ellis amdano - 'one of the most appealing of all the Welsh martyrs.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.