DAVIES, TIMOTHY (1802 - 1862), offeiriad a phregethwr

Enw: Timothy Davies
Dyddiad geni: 1802
Dyddiad marw: 1862
Rhiant: D. Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad a phregethwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Williams James

Ganwyd 1802, mab D. Davies, curad Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Caerfyrddin o dan Hancock a D. A. Williams, canghellor Tyddewi wedi hynny. (Yr oedd ysgol ramadeg Caerfyrddin yn un o'r pedair ysgol ramadeg yn esgobaeth Tyddewi a drwyddedwyd gan yr esgob Burgess i addysgu rhai'n mynd am urddau eglwysig heb fedru mynd i brifysgol). Fe'i hordeiniwyd yn 1825 yn gurad Ystrad-gynlais, yn 1826 daeth yn gurad-parhaol Capel Coelbren, yn 1836 yn rheithor Ystradgynlais a ficer Defynnog. Priododd, 1840, Sarah, merch David Rees, Llanymddyfri. Bu hi farw yn 1858, gan adael pump o blant; bu ei gŵr farw, 25 Mawrth 1862. Yr oedd yn enwog fel pregethwr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.