DAVIES
,
THOMAS
(
1812
-
1895
),
gweinidog Bedyddwyr a phrifathro coleg yr enwad yn Hwlffordd
;
g.
13 Tachwedd 1812
, mab
John
ac
Ann
Davies
,
ffermwyr cefnog
y
Wern Fawr
,
Llaneurwg
. Cafodd addysg dda mewn ysgol leol ac aeth yn llanc 16 oed i
Dowlais
yn
brentis groser
. Bedyddiwyd ef gan
David
Saunders
yn
Seion
,
Merthyr Tydfil
, a bu'n flaenllaw yn
sefydlu eglwys newydd
yng
Nghaersalem
,
Dowlais
. Dychwelodd i
Laneurwg
yn
1830
ac ymaelodi yng
Nghasbach
.
Cychwynnodd ysgol Sul
yn
Llaneurwg
ac anogwyd ef gan ei
weinidog
Evan
Jones
(‘
Gwrwst
’) [q.v.]
i ddechrau
pregethu
. Wedi blwyddyn o hyfforddiant yng
Nghaerdydd
gan
William
Jones
, gweinidog eglwys Saesneg
Bethany
, aeth i
Goleg y Bedyddwyr
,
Bryste
, yn
1832
, ac ar ben ei gwrs, yn
1836
, derbyniodd alwad i eglwys Saesneg
Merthyr
. Bu'n
cadw ysgol
yno hefyd a daeth yn ŵr amlwg ym mywyd y dref. Yn
1856
etholwyd ef yn
brifathro
Coleg y Bedyddwyr
yn
Hwlffordd
, ac yn sgil hynny yn gydweinidog eglwys
Bethesda
yn y dre. Bu ei waith yno drachefn yn llwyddiant mawr. Ymddiswyddodd yn
1894
, a bu f.
10 Mawrth 1895
. Bu'n
llywydd
Undeb y Bedyddwyr
,
1874
, yn
is-lywydd
Cymdeithas y Beiblau
, ac yn
gadeirydd
Bwrdd Ysgol Hwlffordd
. Priododd (1),
Jane
(bu. f.
1857
), merch
Lewis
Williams
o
Ferthyr
, a (2),
Emma
(bu. f.
1899
), merch y
Parch.
W.
Davies
,
Hailsham
. Cyhoeddwyd ei anerchiad i
Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ac Iwerddon
yn
1867
ar ‘
Ministerial Education in Wales
.’
Llyfryddiaeth:
-
Welsh Political and Educational Leaders in
the Victorian Era
, 1908
, 495-517;
-
Baptist Handbook
,
1896
;
-
Dyddiadur a Llawlyfr Undeb Bedyddwyr
Cymru
,
1896
;
-
‘Dictionary of Welsh Biography.’ 27
cyf., N.L.W. MSS. 9251–77
;
-
Oxford Dictionary of National
Biography
Awdur:
Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth