Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES , DAVID STEPHEN ( 1841 - 1898 ), pregethwr, dirwestwr, llenor, a gwladfawr ; g. yn Brynffynnon , Plasmarl , Abertawe , 14 Chwefror 1841 , mab i John Davies [q.v.] , gweinidog Mynydd-bach , Llangyfelach . Ar farwolaeth ei dad wrth ei waith fel arolygydd glofa yn 1854 , gorfu i'r bachgen adael ei ysgol a mynd i weithio ar agerbeiriant yn Aberdâr . Oherwydd y streic, ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn 1857 . Dechreuodd bregethu yn Holidaysburg , addysgwyd ef yn y Wyoming Seminary , Kingston , a'r Western Theological Seminary , Allegany , a chafodd ei ordeinio yn weinidog Emmett ac Ixonia yn 1862 ; priododd Miss G. Stephens , Wisconsin , yr un flwyddyn. Symudodd i Dentor yn 1864 , yna i Centreville , ac i Efrog Newydd yn 1872 . Ffurfiodd gwmni ymfudol a phrynwyd y llong Rush a'i hanfon gyda 29 o ymfudwyr i'r Wladfa ym Mhatagonia , ond aeth y rheini ar chŵal yn Montevideo . Casglodd fintai arall yn cynnwys 42 o ymfudwyr, ac yntau yn eu plith, yn berchenogion y llong Electric Spark o 200 tunnell, a'r llwyth o 250 o dunelli ac yn cynnwys offer amaethu; ond aeth y llong yn ddrylliau ar draeth Brazil , collwyd y llwyth, a thrwy fawr drafferth y cyrhaeddodd yr ymfudwyr i'r Wladfa mewn tlodi. Aeth y sôn eu bod wedi boddi i'r Unol Daleithiau , a thraddodwyd pregeth goffa a chyhoeddwyd ysgrifau coffa yno er cof am D. S. Davies . Ymhen pedwar mis dychwelodd o'r Wladfa i Gymru , a derbyniodd wahoddiad i fugeilio Ebeneser , Bangor , yn 1875 fel olynydd i Robert Thomas (‘ ap Vychan ’) . Aeth i gyrchu ei deulu o Efrog Newydd , a threfnodd yno i long arall, y Lucerne , fynd allan i'r Wladfa , ond ni bu llwyddiant i'w mordaith hithau ychwaith. Symudodd i fugeilio eglwys Union Street , Caerfyrddin , yn 1886 , a bu yno hyd ei farwolaeth ar 29 Hydref 1898 . Bu'n olygydd Y Celt , a chyhoeddodd rai llyfrau, sef Llawfer , Ystyr Bedydd , Adroddiad ( 1875 ) yn cynnwys manylion am y Wladfa i ddenu ymfudwyr, Y Cymro: Llawlyfr y Wladfa ( 1881 ), ac Atodiad i'r Cymro ( 1882 ).

Llyfryddiaeth:

  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2381-2407, 4611-9;
  • R. Bryn Williams , Cymry Patagonia , Aberystwyth, 1942 a Rhyddiaith y Wladfa , Dinbych Gwasg Gee, 1949 ;.

Awdur:

Y Parch. Richard Bryn Williams, M.A., (1902-81), Rhuthyn / Aberystwyth