DAVIES, SOROBABEL (1806 - 1877), ysgolfeistr a phregethwr gyda'r Bedyddwyr

Enw: Sorobabel Davies
Dyddiad geni: 1806
Dyddiad marw: 1877
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr a phregethwr gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Thomas Richards

Ganwyd yn Llety Shôn ger Llandeilo; myned i athrofa Bryste, a chael ei ordeinio yn Llandyfaen (1825), dod yn weinidog yn Llandeilo (1825-7) a Bwlch-y-gwynt (1836-9). Cyn hyn yr oedd wedi dechrau cadw ysgol, yn enwedig yn Abergwaun (1833), lle y bu o fawr wasanaeth i'r achos pan ballodd llais a pharabl James Richards y gweinidog. Cadw ysgol a phregethu 'n cyd-redeg; bu'n cadw ysgol yn Llandeilo, Cross Inn, Llanelli, Talacharn, a St Clears (dau ysbaid). Yn St Clears yr ydoedd pan ddaeth swyddog y Dirprwywyr Addysg heibio yn 1846, a llythyr oddi wrth Sorobabel yw un o'r pethau mwyaf diddorol yn y Llyfrau Gleision enwog (1847). Rhydd fras linelliad o'i yrfa ei hun, y dull o gasglu ysgol at ei gilydd, y llyfrau a ddygid gan y plant i'r ysgol; sonia am dlodi dygn y werin bobl, ac am eu parodrwydd i roddi addysg i'w plant pe bai'r moddion ganddynt. Mewn hen gapel i'r Undodiaid y cedwid yr ysgol, gyda llawr pridd iddo; ond argraff dda iawn a wnaeth Sorobabel á'i ddull tawel hamddenol ar swyddog y comisiwn, a cheir geiriau mawrhaol am y drefn a'r reolaeth dda. Yn 1853 ymfudodd i Awstralia; cafodd le fel meistr ysgol o dan y Llywodraeth; daliai i bregethu, ac nid oes sicrwydd pa un ai ef ai W. M. Evans, y pregethwr Methodus, a bregethodd y bregeth Gymraeg gyntaf yn Awstralia. Gyda hynny daeth yn berchennog newyddiadur, y Pleasant Creek News (dyma enw'r fangre y sefydlodd ynddi, 150 milltir o Melbourne), a throdd yr antur o fentro arian yn y gweithfeydd aur yn dra lwcus iddo fel y bu farw mewn amgylchiadau cysurus yn nechrau Mai 1877.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.