Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES , SAMUEL ( 1788 - 1854 ), gweinidog gyda'r Methodistiaid Wesleaidd ; cyfeirir ato fel ‘ Samuel Davies y Cyntaf .’ Daeth at grefydd pan oedd yn 13 oed ac ymunodd â'r Methodistiaid Wesleaidd ym Maeshafn , gerllaw yr Wyddgrug . Ym mis Ionawr 1807 danfonwyd ef gan Owen Davies [q.v.] i sir Aberteifi yn bregethwr teithiol , ac am y 39 mlynedd nesaf bu'n ’trafaelio’ mewn gwahanol gylchdeithiau yng Nghymru a hefyd yn Lerpwl a Manceinion . Priododd, 1814 , Mary Twiston , Dinbych ; bu wyth o blant o'r briodas — pum mab a thair merch. Yn ystod yr adeg yr oedd ym Manceinion , sef 1838-41 , collodd, mewn cyfnod o bedwar mis, ei wraig, ei fab ieuengaf, a'i ferch ieuengaf, a bu i hyn, ynghyd â gorweithio, beri iddo golli ei iechyd a methu a'i gael yn ôl yn gyfan gwbl wedi hynny. Daeth yn ‘uwchrif’ yn 1846 ac wedi iddo ddioddef gan gyfnodau o wendid bu f. 7 Mai 1854 , yn Ninbych .

Ar waethaf yr ychydig addysg a gafodd, darllenai'n awchus (eithr mewn cylchoedd cyfyng). Yr oedd yn un hawdd dylanwadu arno, yn ofergoelus, ac yn tueddu i fod yn eithafol ei olygiadau; yr oedd fel rheol yn un cryf ei deimladau — weithiau yn annosbarthus felly. Er mai prin y gellid ei gyfrif yn weinyddwr da, yr oedd yn fugail diwyd a llwyddiannus; gallai ddenu tyrfaoedd i'w wrando, nid yn gymaint yn herwydd ei huodledd (yr oedd ei lais yn gras a'i draddodi yn drwm) ag oblegid nerth ei argyhoeddiadau a'i ddawn i egluro athrawiaethau crefydd. Y mae iddo le pwysig yn hanes cynnar Methodistiaeth Wesleaidd gynnar Cymru fel amddiffynnwr gwresog a di-ildio i Arminiaeth yn y pulpud a thrwy gyfrwng y Wasg.

Llyfryddiaeth:

  • S. Davies , Y Parch. Samuel Davies, Iaf, a'i Amserau yn cynnwys hanes ei fywyd, cofnodion o'i lafur fel gweinidog, ac o'i weithiau fel awdwr , Bangor, 1866? .

Awdur:

Albert Hughes Williams, M.A., (1907-96), Caerdydd

Atodiadau a chywiriadau:

DAVIES , SAMUEL ( 1788 - 1854 ; Bywg. , 139b) g. Mehefin 1788 ym Maes-y-groes , plwyf Cilcain , Sir Fflint .