DAVIES, RICHARD (1814 - 1854), ysgrifennydd y 'Church Missionary Society'

Enw: Richard Davies
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1854
Rhiant: Robert Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgrifennydd y 'Church Missionary Society'
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Rhuddlan, yn fab i'r Parch. Robert Davies a oedd ar y pryd yn gurad Rhuddlan, a fu wedyn yn gurad Trelawnyd (1823-8), ac yna'n gurad â gofal yr eglwys esgobol Gymraeg yn Lerpwl. Yn 1841, etholwyd Richard Davies yn ysgrifennydd y 'Church Missionary Society' ac yn olygydd ei chylchgronau. Cafodd fywoliaeth Brenchley (Caint) yn 1848, a bu farw yno 6 Chwefror 1858.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.