DAVIES, THOMAS RHYS (1790 - 1859), gweinidog y Bedyddwyr

Enw: Thomas Rhys Davies
Dyddiad geni: 1790
Dyddiad marw: 1859
Priod: Ann Davies (née Foulks)
Rhiant: Dafydd Dafis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog y Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Lewis Edward Valentine

Ganwyd ym Mhenwenallt, Cilgeran, 19 Mai 1790, mab Dafydd Dafis, Tre-fawr, Llanfyrnach. Cafodd addysg gan Dafydd Stephen yn y Capel Bach, Llechryd; gan Walters, mab offeiriad Llanfihangel-Pen-Fedw; ac yn ysgol y Parch. Evan Jones yn Aberteifi. Bedyddiwyd ef yn 1806 yn afon Morgeneu, a dechreuodd bregethu ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn. Ymwelodd a Gogledd Cymru yn 1811, a phregethu yng nghymanfa Amlwch, ac ar anogaeth daer Christmas Evans daeth i Lansantffraid Glan Conwy a'r Rowen yn 1812, ond yn ei fam-eglwys yng Nghilfowyr yr ordeiniwyd ef yn 1814. Dwy eglwys oedd yn ei gylchdaith yn y Gogledd y pryd hynny, a 35 aelod ar wasgar mewn 12 plwyf, 'ond yr oeddym yn pregethu,' ysgrifennai mewn darn o hunangofiant, 'mewn llawer iawn a dai ffermwyr a phobl gyffredin, a drysau agored ym mhob ardal, fel y buwyd am rai blynyddoedd heb braidd gysgu dwy noswaith nesaf i'w gilydd yn yr un gwely, gan lafur gwastadol,…a bûm ym mhob afon, a llyn, a nant o Gonwy i Lansannan, ac o Lanrwst i'r Bontnewydd, o fôr Llandudno i fynydd Berwyn, yn cysegru eu holl ddyfroedd.' Yn 1814 priododd Ann Foulks o'r Beniarth yn Llandrillo-yn-Rhos, merch o deulu cefnog a chlyd ei hamgylchiadau, a gallodd yntau oherwydd y briodas hon roddi benthyciadau arian i'r llu eglwysi bychain a sefydlwyd ganddo i godi capelau yng ngorllewin Dinbych a Sir y Fflint. Bu ffrwgwd rhyngddo ag eglwys Glanwydden ynglŷn ag eiddo, ac ymadawodd yntau â'r Bedyddwyr yn 1818 ac ymuno â'r Wesleaid, ond dychwelodd at ei hen enwad yn 1826. Bu yng Nglynceiriog (1827-9), yn Lerpwl yn Heol Stanhope a chodi capel yno (1829-35), ac yng Nghilgeran (1835-43). Dychwelodd i'r Gogledd i fyw yng Nglanwydden yn 1843, ac ymroi i'w hoff waith o bregethu teithiol, ac ar daith felly y bu farw yn Abertawe, 26 Mehefin 1859; claddwyd ef ym medd Christmas Evans. Pregethodd 13,145 o weithiau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.