DAVIES, RANDOLF (RONDL) (bu farw 1695), offeiriad a dadleuydd ar faterion crefyddol

Enw: Randolf Davies
Dyddiad marw: 1695
Priod: Mary Davies (née Williams)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad a dadleuydd ar faterion crefyddol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Williams James

Ni wyddys ddim, hyd yn hyn, am ei eni, ei dras, ei addysg, a'i ordeinio. Fe'i dewiswyd yn ficer Meifod, Sir Drefaldwyn, 13 Ebrill 1647, gan y ' Commissioners of the Great Seal' (Piwritanaidd); ymddengys, felly, mai clerigwr Anglicanaidd a gydymffurfiasai ydoedd. Er dywedyd o rai i un Stephen Lewis gymryd ei le ym Meifod yn 1648, nid oes amheuaeth na bu iddo barhau'n ficer y plwyf hwnnw hyd yr Adferiad (1660), pryd y bu iddo eilwaith gydymffurfio a chael ei ail-ddewis gan Siarl II o dan sêl fawr y deyrnas a'i sefydlu gan esgob Llanelwy, 13 Awst 1661; fe'i dewiswyd hefyd i fywoliaeth ddi-ofal Cwm, Sir y Fflint. Priododd, 10 Mehefin 1648, Mary, merch John Williams, ficer Llanfyllin a Llanrhaeadr ym Mochnant a rheithor bywoliaeth ddi-ofal Llaneurgain, a bu iddynt lawer o blant, a fedyddiwyd i gyd rhwng 1649 a 1666.

Dywedir ei fod yn un o dri awdur llyfr a gyhoeddwyd yn 1660 o dan y teitl Cowir a Ffyddlawn Ateb i Lyfr a enwir Ychydig gyfrwyddiad i'r Cymru yn erbyn y cyfeiliorni sydd ym mysg y bobl a elwir cwacers… ond nid oes gopi o'r llyfr yn wybyddus. Yn 1675 cyhoeddwyd, yn Rhydychen, Profiad yr Ysprydion, neu Ddatguddiad Gau Athrawon … o waith Rondl Davies … Ficar Meifod. Er gwaethaf ei opiniynau, fel y ceir hwynt-hwy mewn argraff, adroddid iddo gyfryngu gyda'r esgob William Lloyd, Llanelwy, ar ran corff o Annibynwyr a oedd yn byw yn ei blwyf ei hun; ymddengys ei fod yn awyddus i fyw mewn heddwch gyda'i gyd-ddynion i gyd, yn enwedig gyda'r swyddogion eglwysig a oedd uwchlaw iddo a chyda'i gymdogion. Fe'i claddwyd 25 Chwefror 1695.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.