DAVID
,
PHILIP
(
1709
-
1787
),
gweinidog gyda'r Annibynwyr
ym
Mhenmain
,
sir Fynwy
;
g.
11 Mehefin 1709
, yng
Nghwm Ebwy Fawr
. Tueddwyd ef at grefydd tua
1720
gan bregethu
James
Davies
o
Ferthyr Tydfil
[q.v.]
;
dechreuodd bregethu ei hunan yn
1732
; ac yn
1739
urddwyd ef yn
weinidog cynorthwyol
i
David
Williams
(a fu yno o
1710
hyd ei f. yn
1759
) ym
Mhenmain
. Bu yno hyd ei f.
3 Chwefror 1787
. Tua 100 oedd rhif yr eglwys ar hyd ei weinidogaeth. Gŵr ceidwadol a chrabet oedd
Philip
David
, ac y mae ei ddyddiaduron (anghyhoedd) yn ddrych hynod ddiddorol o ragfarn hen ‘Sentar sych’ yn erbyn y dulliau
Methodistaidd
a oedd yn ennill y dydd ymysg yr
Annibynwyr Cymreig
erbyn diwedd ei ddyddiau ef. Nai iddo ef oedd
Philip
Charles
o
Gefn-coed-cymer
[q.v.]
.
Llyfryddiaeth:
-
Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru
, i, 26-8;
-
Y Dysgedydd
,
Mai 1934
;
-
Y Cofiadur
,
1935
, 37.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor