DAVIES, OWEN (1840 - 1929), gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: Owen Davies
Dyddiad geni: 1840
Dyddiad marw: 1929
Priod: Sarah Jane Davies (née Ellis)
Rhiant: Owen Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd yn amaethdy Cae Plan ger Pwllheli, 8 Hydref 1840. Yr oedd ei dad, Owen Davies, yn gefnder i David Owen ('Dewi Wyn o Eifion'). Addysgwyd ef yn ysgolion Llanystumdwy ac Yokehouse, Pwllheli; prentisiwyd ef yn ddilledydd ym Mhwllheli, ac aeth i siop yn Llanelwy yn 18 oed. Yn Llanelwy y dechreuodd bregethu. Yn 1862 aeth i Goleg y Bedyddwyr, Llangollen, yn un o'r chwe efrydydd cyntaf. Bu'n bugeilo eglwysi Holywell (1865), Llangollen (1867), a Chaernarfon (1876). Yng Nghaernarfon dilynodd Robert Ellis ('Cynddelw'). Ymneilltuodd o waith bugeilio yn 1905. Bu'n ysgrifennydd Coleg y Bedyddwyr, Bangor, 1892-5, ac yn ddarlithydd ar fugeilio a phregethu o 1895 hyd 1915. Ef oedd ysgrifennydd cyntaf Undeb Bedyddwyr Cymru; bu'n llywydd yr Undeb yn 1888. [Gweler yr erthygl ar John Rufus Williams, sy'n awgrymu mai cydysgrifennydd ydoedd gan i John Rufus Williams hefyd ddal swydd o'r cychwyn. ] Bu'n golygu Yr Athraw a'r Greal (1871-1918). Priododd, Mai 1872, Sarah Jane, merch Owen a Catherine Ellis, Bryn y Pin, ger Conwy, a bu iddynt fab a thair merch. Bu farw 30 Mai 1929 a chladdwyd ef yn y Fynwent Newydd, Caernarfon; bu Mrs. Davies farw 22 Tachwedd 1939. Yr oedd O. Davies yn un o bregethwyr blaenaf ei ddydd ac yn arweinydd doeth a diogel yn ei enwad. Ymhlith ei lyfrau y mae Cofiant y Parch. J.Pritchard, D.D., 1880; Bywyd a Gwaith Christmas Evans, 1898; Cofiant Robert Jones, Llanllyfni, 1903; Bedyddwyr Cymru: Eu Hanes a'u Golygiadau, 1905.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.