DAVIES, OLIVER (fl. tua 1820), telynor

Enw: Oliver Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: telynor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Nhrefaldwyn. Efe oedd prif delynor eisteddfod Trallwng yn 1824, ac eisteddfod Cymmrodorion Llundain, 6 Mai 1829, pan synnwyd at ei fedrusrwydd i ganu y delyn bedawl. Yr oedd hefyd yn yr eisteddfod a gynhaliwyd yn Llundain, 1831. Cyfeirir ato gan ' Bardd Alaw ' yn ei ysgrif ar y ' Cambrian Pedal Harp ' a geir yn Y Cymmrodor, i, fel hyn: 'This harp will be introduced at the anniversary meeting of the Royal Cambrian Institution, on the 22 May next (1822), and played by a young musician of the name of Davies, who promises to become a first rate performer.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.