DAVIES, MYLES (neu MILES) (1662 - 1715?), dadleuydd crefyddol a llyfryddwr

Enw: Myles Davies
Dyddiad geni: 1662
Dyddiad marw: 1715?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: dadleuydd crefyddol a llyfryddwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: John James Jones

Mab George ac Elizabeth Davies, Tre'r Abbot, ym mhlwyf Whitford, Sir y Fflint. Hyfforddwyd ef yng Ngholeg Saesneg y Jesiwitiaid, Rhufain, lle'r urddwyd ef yn offeiriad 17 Ebrill 1688. Gadawodd y coleg 15 Hydref yr un flwyddyn, a dychwelodd adref i weithio gyda chenhadon y Jesiwitiaid yng Nghymru a siroedd y goror. Ond yn fuan troes at Brotestaniaeth, ac ysgrifennodd 'apologia' o'i droedigaeth yn y llyfr The Recantation of Mr. Pollett, a Roman priest, etc. (London, 1705). ' Pollett ' oedd ffugenw Davies fel cenhadwr fel ag y buasai ' Blount ' pan oedd yn efrydydd. Ar ôl ei dröedigaeth ymddengys iddo astudio'r gyfraith, oblegid ar deitlau gwahanol gyfrolau o'i brifwaith, Athenae Britannicae (6 chyf., London, 1716), geilw ei hun yn ' Gentleman of the Inns of Court,' ' Barrister-at-Law,' a ' Councillor-at-Law.' Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf o'r gwaith hwn yn gyntaf oll ar ei phen ei hun yn 1715 o dan y teitl, Eikon-Mikrobiblike sive Icon Libellorum, or a critical history of pamphlets (London, 1715). Bodolaeth y gyfrol unigol hon ynghyd â'r chwech o'r teitlau newydd Athenae Britannicae sy'n gyfrifol, y mae'n lled debyg, am y mynegiad yn y D.N.B. a mannau eraill fod gan yr Amgueddfa Brydeinig saith gyfrol o'r gwaith hwn. Prif amcan Davies wrth gyfansoddi'r gwaith oedd cofnodi, beirniadu, a gwrthbrofi'r pamffledi a'r traethodau a gyhoeddwyd gan y Pabyddion a chan y rhai a eilw ef yn Ariaid a Sosiniaid. Ceisia wrthbrofi'r rhain trwy ddyfynnu'n helaeth iawn o draethodau Protestannaidd. Y mae'r gwaith, felly, o werth mawr i'r sawl a astudia lyfryddiaeth neu hanes y math hwn ar lenyddiaeth. Byddai astudiaeth o'r ddwy gyfrol gyntaf yn arbennig yn fuddiol iawn i ymchwilwyr i hanes llenorion Cymru a ysgrifennai yn Gymraeg yn ystod yr 16eg ganrif a'r 17eg. Cynhwysodd Davies yn y llyfr hwn beth o'i waith ef ei hunan, yn neilltuol y ddrama Ladin ' Pallas Anglicana,' etc., yn y bumed gyfrol.

Nid oes sicrwydd ynghylch blwyddyn ei farw. Rhoddir hi'n gyffredin fel 1715 (?), ond lledawgryma rhai ffeithiau ei fod yn fyw yn 1716. Er enghraifft, y mae ar gael gân fer o'i waith yn Lladin yn cyfarch Thomas Parker, arglwydd Macclesfield, a ddyrchafwyd yn bendefig yn y flwyddyn honno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.