Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES , MORRIS (’ Meurig Ebrill ’; 1780 - 1861 ), bardd ;

g. yn Nolgellau . Fe'i prentisiwyd gyda saer coed a bu'n dilyn ei grefft a barddoni yn Nolgellau a'r cylch; gweithiai ar brydiau yn rhai o blasau'r cylch — Nannau , Hengwrt , Dolserau , a Caerynwch . Pan oedd tua 13 oed cafodd gyfle i adnabod Thomas Edwards (‘ Twm o'r Nant ’) pan oedd y bardd a'r anterliwtiwr yn y Bala . Canodd lawer o gerddi a chaneuon ar destunau cefn gwlad, llu o englynion, a thua 12 o garolau. Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, Diliau Meirion , yn 1853 ; fe'i dilynwyd gan ail ran, gyda rhagdraeth gan ‘ Gutyn Ebrill ,’ yn 1854 . Teitl ei drydydd llyfr, a gyhoeddwyd yn 1855 , oedd Hanes Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill gyda ‘Diliau Meirion’ o Ddolgellau i Gaerlleon-Gawr, Birkenhead, Llynlleifiad, a Manceinion, a'i ddychweliad yn ol drwy siroedd a threfydd Gogledd Cymru yn … 1854-55 ; y mae cynnwys hwn yn gymysg o ryddiaith a barddoniaeth. Bu f. 26 Medi 1861 .

Ffynonellau:

  • Ysgrifau yn Y Dydd , 1868 .

Awdur:

Robert (Bob) Owen, O.B.E., M.A., (1885-1962), Croesor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54