Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES ( DAVYS ), MATTHEW ( fl. 1620 ), gwleidyddwr ; mab hynaf Edward Davies , Chisgrove , swydd Wilts (o deulu Syr John Davies , 1569 - 1626 , bardd a chyfreithiwr y mae ysgrif arno yn y D.N.B. ). Dewiswyd ef yn aelod dros Gaerdydd yn Senedd gyntaf Iago I , o dan nawdd y 3ydd iarll Penfro , a bu'n ymladd yn gryf dros iawnderau'r fwrdeisdref honno yn erbyn y cynnig i newid cwrs trafnidiaeth drwy bontio afon Gwy yng Nghasgwent . Ac yntau eto'n fyfyriwr yn y Middle Temple (fe'i derbyniwyd 4 Ebrill 1614 ), bu'n siarad yn aml yn yr ‘ Addled Parliament ’ ( 1614 ), gan arwain, gyda'i fynych areithiau gwladgarol, y gwrthwynebiad i gymal 119 yn Neddf yr Uno a gweithredu fel cadeirydd y pwyllgor a fu'n ystyried y mesur a gyflwynwyd (cyn ei amser, fel petai) i'w ddiddymu; bu hefyd yn pleidio mesurau'n ymwneud â chadwraeth y Saboth a'r ymosod ar ddrwg-weithredoedd etholiadol Syr Thomas Parry [q.v.] pan oedd hwnnw'n siansler y Duchy of Lancaster . Mewn Seneddau diweddarach bu'n eistedd dros etholaethau yn Lloegr — ar y cyntaf yn y mannau hynny yn Wiltshire lle yr oedd teulu Pembroke yn ddylanwadol, eithr peidiodd â chymryd rhan o unrhyw bwys yn y dadleuon. Gan iddo esgeuluso cymryd ei le yn y Senedd Faith fe'i lluddiwyd (‘disabled’) oherwydd iddo wrthod mynd i'r Senedd pan wysiwyd ef yno ( 15 Mawrth 1643 ). Yn Shaftesbury , un o etholaethau ‘poced’ teulu Pembroke , yr oedd yn byw ar y pryd.

Llyfryddiaeth:

  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1942 , 31, 35-6, 70-1;
  • The Journals of the House of Commons , iii,4;
  • W. R. Williams , The History of the Parliamentary Representation of Wales , 1895 , 106;
  • Sturgess , Register of Admissions to the Honourable Society of the Middle Temple, 1501–1944 , 1949 , i, 102.

Awdur:

Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor