DAVIES, MARY (1855 - 1930), cantores

Enw: Mary Davies
Dyddiad geni: 1855
Dyddiad marw: 1930
Priod: William Cadwaladr Davies
Rhiant: William Davies
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: cantores
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Llundain, 27 Chwefror 1855, merch i William Davies ('Mynorydd'). Daeth i sylw fel cantores yn ieuanc, trwy ei chanu yng nghyngherddau Cymraeg y brifddinas; ei hathrawon cyntaf oedd Brinley Richards a Megan Watts-Hughes. Ymunodd a'r ' Undeb Corawl Cymreig ' o dan arweiniad John Thomas ('Pencerdd Gwalia'). Yn 1873 enillodd ysgoloriaeth o dair blynedd yn y Royal Academy of Music a roddid gan yr Undeb Corawl Cymreig, ac oherwydd ei llwyddiant yn ystod cwrs ei haddysg estynwyd amser yr ysgoloriaeth i bum mlynedd. Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf fel cantores broffes yng nghyngerdd Brinley Richards yn 1873; yr un flwyddyn gwasnaethai hefyd yn eisteddfod genedlaethol yr Wyddgrug a gŵyl gerddorol Harlech. Daeth i enwogrwydd a gelwid am ei gwasanaeth i ganu yng nghyfanweithiau y meistri, ac yng nghyngherddau Neuadd St. James, Llundain, a'r Halle, Manchester. Yn 1888 priododd W. Cadwaladr Davies, cofrestrydd Coleg y Brifysgol, Bangor, ac wedi ei farw ef yn 1905, symudodd i Lundain i fyw. Cymerodd ran flaenllaw yn sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1906, a gwnaed hi yn llywydd y gymdeithas. Yn 1916 rhoddodd Prifysgol Cymru iddi y radd anrhydeddus o Ddoethur mewn Cerddoriaeth, ac yn 1929 cyflwynwyd iddi fathodyn Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion am ei gwasanaeth i gerddoriaeth. Bu farw 22 Mehefin 1930, a chladdwyd hi ym meddrod ei phriod ym mynwent Glanadda, Bangor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.