DAVIES, MARY ('Mair Eifion '; 1846 - 1882), bardd

Enw: Mary Davies
Ffugenw: Mair Eifion
Dyddiad geni: 1846
Dyddiad marw: 1882
Rhiant: Jennet Davies
Rhiant: Lewis Davies
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Idwal Lewis

Ganwyd 17 Hydref 1846 ym Mhorthmadog, lle bu'n byw hyd derfyn ei hoes, merch hynaf Capt. Lewis Davies a Jennet ei wraig, Tregunter Arms, Porthmadog. Addysgwyd hi yn yr ysgol a gedwid ym Mhorthmadog gan ferch i Dr. William Rees ('Gwilym Hiraethog'). Dangosodd hoffter at farddoni'n gynnar ac fe'i hyfforddwyd gan ' Ioan Madog ' a'r prifardd ' Emrys.' Ymddangosodd llawer o'i chynyrchion o dro i dro yn Y Dysgedydd a olygid gan ' Emrys ' y pryd hynny. Cystadleuai'n fynych yng nghyfarfodydd llenyddol Porthmadog a'r ardaloedd cylchynnol, ac ennill gwobrau am ddarnau barddonol a thraethodau. Urddwyd hi fel aelod o'r Orsedd yn eisteddfod genedlaethol Pwllheli, 1875. Cyhoeddwyd Blodau Eifion, gwaith barddonol ' Mair Eifion,' o dan olygiad William Roberts ('Gwilym Eryri'). Bu farw 8 Hydref 1882, yn 35 mlwydd oed, a'i chladdu yn Soar, Talsarnau. Ni bu yn briod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.