DAVIES
,
MARGARET
(
c.
1700
-
1785?
),
gwraig y ceir amryw lawysgrifau o'i gwaith yn ein llyfrgelloedd cyhoeddus
.
Yr oedd yn ferch i ŵr o'r enw
Dafydd
Evan
o'r
Coetgae-du
ym mhlwyf
Trawsfynydd
. Dysgodd reolau cerdd dafod yn ei hieuenctid, a cheir yn
Cymru (O.M.E.)
, xxv, 93-8 gopi o lythyr a anfonasai
Michael
Prichard
ati yn
1728
, llythyr a brawf ei bod yn cyfarwyddo'r gŵr hwnnw yng nghelfyddyd barddoniaeth
Cymraeg
. Gellir casglu ei bod yn gymeriad pur amlwg yng nghylchoedd llenyddol
sir Feirionnydd
a
sir Gaernarfon
yn hanner cyntaf y
18fed g.
, er mai ychydig o gyfeiriadau a geir ati yn llyfrau a llawysgrifau ei chyfoeswyr. Y mae gennym englynion a chywyddau o'i gwaith yn ei llaw hi ei hun, ond nid oes ryw lawer o gamp arnynt. Gellir barnu wrth ddarnau o lythyrau a geir yma a thraw yn ei llawysgrifau iddi fwrw llawer o'i hamser yn ymweled â chartrefi ei chyfeillion a'i pherthnasau, megis y
Goetre
ym mhlwyf
Llanelltyd
, y
Berth-lwyd
yn ymyl
Dolgellau
,
Bronwion
ym mhlwyf y
Brithdir
, a
Phlas Tanfynwent
yn
Nolgellau
. Y mae'n weddol sicr ei bod yn perthyn i'r teulu a drigai yn y
Goetre
ac ym
Mronwnion
, a gellir tybied mai yn y
Goetre
y cartrefai yn ei hen ddyddiau, o tua
1766
ymlaen. A'r teulu hwnnw a gafodd ei llyfrau.
Ceir llawysgrifau o'i gwaith yn y
Llyfrgell Genedlaethol
yn
Aberystwyth
, yn llyfrgelloedd cyhoeddus
Caerdydd
ac
Abertawe
, ac yn yr
Amgueddfa Brydeinig
. Cynhwysant gasgliadau o awdlau a chywyddau ac o garolau a cherddi rhydd eraill o amrywiol fathau. Y mae'n eglur
mai
casglu gweithiau'r henfeirdd
ydoedd ei phrif ddifyrrwch.
Llyfryddiaeth:
-
Cymru
, xxv, 93-6;
-
Y Genedl Gymreig
,
6 Chwefror 1933
;
-
Yr Herald Cymraeg (a'r Genedl)
,
17 Ebrill 1939
;
-
G. J. Williams
,
Llythyrau at Ddafydd Jones o Drefriw
.
Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Atodiad cyf. 3. rhif.
2., 1943
,
1943
, 19, 39-43.
Awdur:
Athro-Emeritus Griffith John Williams, M.A., (1892-1963),
Gwaelod-y-garth, Caerdydd
Atodiadau a chywiriadau: