DAVIES, JOSEPH (?- 1831?), cyfreithiwr a sylfaenydd y cylchgrawn Y brud a sylwydd

Enw: Joseph Davies
Dyddiad marw: 1831?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr a sylfaenydd y cylchgrawn Y brud a sylwydd
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Parry

Ni wyddys dim yn sicr am y gŵr hwn. Dywedir mai yn Llanfair-ym-Muallt y ganwyd ef, ei fod yn gyfreithiwr yn Lerpwl, ac iddo farw yn 1831. Ef a gychwynnodd y cylchgrawn, Y Brud a Sylwydd . Daeth wyth rhifyn ohono allan, rhwng Ionawr ac Awst 1828. O'r trydydd rhifyn ymlaen caed ysgrifau Saesneg yn ogystal â rhai Cymraeg. Yr oedd y golygydd yn credu honiadau ei gyfnod ynglŷn â hynafiaeth yr iaith Gymraeg, ac yr oedd yn dadelfennu geiriau yn y dull a gymeradwywyd gan William Owen Pughe. Yr oedd yn credu hefyd mewn llunio geiriau Cymraeg newydd ar gyfer anghenion yr oes, a dyna brif diddordeb ei gylchgrawn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.