Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES , DAVID JOHN ( 1870 - ? ), arlunydd ; g. 16 Mawrth 1870 yn Llandeilo , mab i farcer . Cafodd addysg rydd yn Ysgol Gelf Kidderminster , a chafodd gymorth casgliad cyhoeddus a wnaethpwyd yn Llandeilo i fynd i Antwerp i astudio am ddwy flynedd. Agorodd stiwdio yn Llanelli a bu yno am bedair blynedd gan gael D. Pugh , A.S. , yr Arglwydd Dynevor , yr Arglwydd Emlyn , Mansel Lewis , a Mrs. Gwynne Hughes , Tregyb , Llandeilo , yn noddwyr iddo. Arwyddodd ei waith cynnar gyda'r enw ‘ D. J. Davies ’; yn ddiweddarach mabwysiadodd ‘ Dyer Davies ’ yn enw iddo'i hun oblegid bod cysylltiad rhwng ei fam a theulu Dyer , Aberglasney — gw. yr erthygl ar John Dyer . Yr oedd yn gwneuthur tirluniau a lluniau personau ; gwnâi hefyd ddarluniau i Wales (O.M.E.) ynghyd â gwawdluniau a brofai fod ganddo syniadau radicalaidd pur eithafol. Yn David Davies , dychanlyfr gwleidyddol Beriah Gwynfe Evans , y ceir ei gartwnau gwleidyddol gorau.

Aeth o Lanelli i Lundain i weithio ar y Graphic , eithr dychwelodd i Gymru yn ddiweddarach ac agor stiwdio yn Llandeilo . Yn 1899 , pan oedd yn anterth ei boblogrwydd, aeth i Ddeheudir Affrica adeg y rhyfel â'r Boeriad i fod yn artist a newyddiadurwr yn gweithio ar ei ben ei hun, a chafodd ei osod gyda brigâd gwŷr meirch yr arglwydd Roberts . Arhosodd yn y wlad honno wedi i'r rhyfel ddyfod i'w derfyn; yn 1924 , yn yr ‘ Empire Exhibition ’ yn Wembley , arddangoswyd ei ‘ African Sunset .’ Ni wyddys pa bryd y bu farw.

Mewn casgliadau preifat y mae y rhan fwyaf o'i bortreadau o bersonau yn aros. Ceir, fodd bynnag, ei ‘ Portrait of an unknown man ’ yn ystafell cyngor Llandeilo , ac y mae portread mewn olew o'i waith o'r Parch. William Davies , aldramon , yng nghapel y Tabernacl , yn yr un dref.

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth gan ei chwaer a chan ffrindiau.

Awdur:

Harold Williams, Abertawe