DAVIES, JOHN (1799? - 1879), ' John Davies, Nercwys,' gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: John Davies
Ffugenw: John Davies, Nercwys
Dyddiad geni: 1799?
Dyddiad marw: 1879
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

hynod am ei ffraethineb a'i ddonioldeb. Y mae 'cofiant' iddo, gan George Jones (Wrecsam, 1907), diffygiol iawn mewn dyddiadau a manion felly. Gellid meddwl iddo gael ei fagu yn yr Wyddgrug (yn Nercwys yr oedd gwreiddiau ei deulu); derbyniwyd ef yn aelod yn yr Wyddgrug 'yn 16 oed' (G. Owen, Methodistiaeth Sir Fflint, 323), ac yn ôl ei gerdyn angladd yr oedd yn '79' pan fu farw yn 1879 (Y Cylchgrawn, 1879, 135-6 ), felly yn 1799 neu 1800 y ganwyd ef, ac nid yn 1808 fel y dywedir gan rai. Dechreuodd bregethu yn 1822 ac ordeiniwyd ef yn 1834; yr oedd yn bregethwr hynod iawn, a bu mynd mawr hefyd ar ei esboniad ar Lyfr y Diarhebion, 1869. Dylid nodi un ffaith a awgryma ei fod yn rhyddach ei olygiadau gwleidyddol na llawer o weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd cyn canol y 19eg ganrif - yr oedd ym mhlaid y mudiad yn 1841 i ddiddymu treth yr ŷd (gweler Cylchgrawn Rhyddid, l Ionawr 1842). Bu farw 5 Mawrth 1879.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.