DAVID, JOB (1746 - 1812), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Cyffredinol

Enw: Job David
Dyddiad geni: 1746
Dyddiad marw: 1812
Rhiant: Job David
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr Cyffredinol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Nhrenewydd Notais yn 1746, yn fab i Job David (1709 - 1766), henuriad ac wedyn gweinidog cynorthwyol yn eglwys y Bedyddwyr ym Mhen-y-fai, Pen-y-bont ar Ogwr - arno ef gweler D. Jones, Hanes Bedyddwyr Deheubarth Cymru, 549. Aeth y mab i academi'r Bedyddwyr ym Mryste (1766-71), bu wedyn yn cynorthwyo ym Mhen-y-fai, urddwyd ef yn weinidog Frome (1773-1803), ac yna ymneilltuodd i Abertawe, lle y bu farw 11 Hydref 1812 (nid 1813, fel y dywedir yn gyffredin). Yr oedd yn ddadleuwr glew; bu'n dadlau â'i athro gynt, Caleb Evans, ymhlaid Arminiaeth, Priestley yn erbyn bedydd babanod, ac â Thomas Coke.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.