Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES , JOHN (‘ Brychan ’; 1784? - 1864 ), bardd, golygydd, a hyrwyddwr mudiad y cymdeithasau cyfeillgar ; g. (yn ôl J.T. J. , i, 155) ar dyddyn o'r enw Clyn , ym mhlwyf Llanwrthwl , gogledd Brycheiniog — tebyg mai camddeall yr ymadrodd ‘ym mlaenau sir Frycheiniog ’ a arweiniodd rai i ddweud Blaenau Gwent . Y mae'r ychydig iawn a wyddom am fore ei oes i'w gael yn J.T. J. ; ni chafodd awr o ysgol; wedi tyfu, ymadawodd a'i gartref anghysbell ac aeth i Abertawe ; yno, cytunodd i fynd yn forwr , a bu ar y mor am dair blynedd; ar y llong y dysgodd ddarllen a sgrifennu. Yn y cyfamser, bu f. ei dad, a symudodd ei fam a'i frodyr i Dredegar . Ymunodd yntau â hwy, a bu am flynyddoedd yn gweithio dan y ddaear ; codwyd ef yn ‘ foreman .’ Wedyn, bu am flynyddoedd yn llyfrwerthwr a chyhoeddwr . Yn wir, y mae ei yrfa'n enghraifft ddiddorol o'r modd y gwladychodd y diwylliant gwledig Cymraeg ymysg cymdeithas ddiwydiannol afluniaidd y Blaeneudir . Daeth dan ddylanwad Iolo Morganwg (tua 1814 ), a derbyniwyd ef i ‘ Orsedd ’ hwnnw yn 1818 ; cymerth ran flaenllaw yn y mudiad eisteddfodol yng Ngwent , a chydweithiodd â Taliesin ab Iolo , Carnhuanawc , Cynddelw , D. Rhys Stephen , a llenorion eraill yr ardal yn y cyfnod hwnnw. Canu rhydd, er hynny, oedd fwyaf at ei chwaeth ef. Sgrifennodd lawer i Seren Gomer , a bu'n dyfal olygu a chyhoeddi blodeugerddi (gan Ashton , Hanes Llenyddiaeth Gymreig , 609-11, y ceir y disgrifiad gorau ohonynt); argraffwyd hwy drosto ym Merthyr Tydfil . Yn 1824 cyhoeddodd Llais Awen Gwent a Morganwg — cynnwys hwn, fel y gweddill, ddarnau ganddo ef ei hun a chan eraill; yn 1825 , Y Gog (daeth arg. eraill o Gaerfyrddin yn 1832 , 1846 , a 1849 ); yn 1827 Y Llinos ; ac yn 1835 Y Fwyalchen . Cyhoeddodd hefyd ( 1828 ) Telyn y Cantorion , gwaith rhyw John Thomas ; Newyddion Da o Wlad Bell , llythyrau o America gan ddeuddyn o Fynwy , 1830 — dogfen awgrymog o'r flwyddyn honno; a chyfieithiad ( 1852 ) o ‘ Lyfr Mormon .’ Gyda'r gweithgarwch canmoladwy hwn i ddarparu llenyddiaeth Gymraeg i wŷr y Blaeneudir , ymdrechodd hefyd ym mhlaid sobrwydd a darbodaeth, yn bennaf trwy hyrwyddo Cymdeithas yr Odyddion (‘ Oddfellows ’). Ceisiodd Gymreigio'r mudiad hwn; lluniodd gân Gymraeg at ei wasanaeth ( 1840 ); gwnaeth gyfieithiad Cymraeg o'i Reolau ( Caerdydd , 1842 ); a chychwynnodd gylchgrawn, Yr Odydd Cymraeg , yn 1831 , ond ni lwyddodd hwnnw. Gellid meddwl ei fod yn ddyn rhadlon a hoffus. Bu f. 20 Mehefin 1864 ( J.T. J. ), ‘ar fin 80 mlwydd oed’ ( Enw. F. , 77).

Llyfryddiaeth:

  • Enwyd y ffynonellau yng nghorff yr ysgrif.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor